Menu
Purchase

130 Years of Cinema: Archive Short Films (12A)

130 Years of Cinema: Archive Short Films

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Sunday 25 Oct 202617:00 (Welsh Film Festival)

130 Years of Cinema: Archive Short Films


Experience 130 years of cinema in Wales through seven short films. The archive shorts in this screening have been selected to show a variety of film genres including action, animation, drama and factual films across the decades of Cinema in Wales. From the earliest known short film made in Wales in 1898 to the award winning Affairs of the Art from 2021. This will be a unique celebration of Welsh cinema.


The event will include films with different certifications, all will be suitable for children aged 12 or above (or younger if accompanied by an adult).


The films include the silent films Children on the Beach; Revenge, a dramatic comedy caper with some scenes of violence; the footage of the Welsh football team playing Ireland at Wrexham’s Racehorse Ground in 1906; a Jerry the Tyke cartoon; the wildlife documentary about the Private Life of Gannets on Grassholm; some stories from the Dial-a-Ride bus in the Brecon Beacons and Joanna Quinn’s famous animations of Beryl in Affairs of the Art.


Note:  All films are exempt from classification, apart from Dial-a-Ride (PG) and Affairs of the Art (12A).


130 Mlynedd o Sinema: Ffilmiau Byrion o'r Archif


Profwch 130 mlynedd o sinema yng Nghymru drwy saith ffilm fer. Mae'r ffilmiau byrion o'r archif yn y digwyddiad hwn wedi'u dewis i ddangos amrywiaeth o genres ffilm, gan gynnwys ffilmiau cyffro, animeiddio, drama a ffeithiol ar draws degawdau sinema yng Nghymru. O'r ffilm fer gynharaf hysbys a wnaed yng Nghymru ym 1898 i'r ffilm arobryn   o 2021. Bydd hwn yn ddathliad unigryw o sinema Gymreig.


Bydd y digwyddiad yn cynnwys ffilmiau â gwahanol raddfeydd oedran; bydd pob un yn addas ar gyfer plant 12 oed neu'n hŷn (neu'n iau os ydynt yng nghwmni oedolyn).


Mae'r ffilmiau'n cynnwys y ffilmiau tawel ‘Children on the Beach’, ‘Revenge’, comedi antur ddramatig gyda rhai golygfeydd o drais; y ffilm o dîm pêl-droed Cymru yn chwarae yn erbyn Iwerddon ar y Cae Ras, Wrecsam, ym 1906; cartŵn ‘Jerry the Tyke’; y rhaglen ddogfen natur am fywyd preifat y mulfrain (gannets) ar ynys Gwales; straeon o fysiau 'Dial-a-Ride' ym Mannau Brycheiniog; ac animeiddiadau enwog Joanna Quinn o'r cymeriad Beryl yn ‘Affairs of the Art’.


Sylwer: Mae pob ffilm wedi'i heithrio rhag cael ei dosbarthu yn ôl oedran, ac eithrio ‘Dial-a-Ride’ (PG) ac ‘Affairs of the Art’ (12A).



Shorts in detail


1. Children on the Beach The first known film made in Wales - shot on the beach at Rhyl in 1898. This simple and endlessly charming seaside scene was filmed at his local beach by Arthur Cheetham, the Rhyl-based cinema owner who became the first ever filmmaker based in Wales. The footage was shot in January of 1898 (which must have been chilly for the kids!) and first screened in Rhyl Town Hall.


2. The silent movie Revenge!, an intense comedy caper. This film's dramatic chase sequences, sex and violence delighted fairground audiences when it was released in 1904. The hero, played by Will Haggar Junior, has been unjustly confined in an Asylum by the Master of the Asylum, so that he can seduce the hero's wife. Will Junior escapes down a rope of knotted sheets, and surprises the Master embracing his wife, but in the ensuing melee the wife and his little daughter are both shot dead, and he is recaptured. Again he escapes, and flees along a stream. Brought to bay at the edge of a precipice, he whirls four warders to their deaths, then returns to the Asylum to settle his score ends with him strangling the Master with his bare hands.


3. Come and see Wales versus Ireland at the Racecourse Ground in Wrexham - from 1906! In what may be the earliest International football match recorded on film, Wales play Ireland in a Home Championship fixture at Wrexham's Racecourse Ground. Wales (in the darker kit) are cheered on by a lively home crowd. This was a high-scoring game, ending in a 4-4 draw.


4. Jerry the Tyke, first produced in 1925, by Cardiff-based animator Sid Griffiths and photographer Bert Bilby, who both worked as projectionists at Cardiff’s Capitol Cinema. The cheeky dog appeared across UK cinemas within British Pathé’s news-magazines. Inspired by the American animation Felix the Cat, Jerry the Tyke was a mixture of live-action sequences and animation, 40 animations were created between 1925 and 1927.


5. The Private Life of Gannets, won best short film at the 1938 Oscars, a documentary about breeding colony of gannets on Grassholm island in Pembrokeshire.


6. Meet the riders on the Dial-a-Ride bus in the Brecon Beacons and experience life from their perspective. Journeying through rural South Wales, passengers on the bus reveal all the joys, challenges and quirks of growing older. The film follows the passengers and their stories through the changing seasons, and is a touching, heartwarming look at what it means to grow old in rural Britain.


7. Celebrate Joanna Quinn and Les Mills’ famous animations of Beryl in Affairs of the Art. How many obsessions can one family have? In this film, we reconnect with Beryl, the working-class heroine who not only reveals her own obsession with drawing but exposes the addictions of her eccentric family, which include pickling, screw threads and pet taxidermy.


***


Manylion y ffilmiau byrion


1. ‘Children on the Beach’ Y ffilm gyntaf hysbys a wnaed yng Nghymru – a saethwyd ar y traeth yn y Rhyl ym 1898. Cafodd y golygfa syml a hynod swynol hon ar lan môr ei ffilmio ar ei draeth lleol gan Arthur Cheetham, perchennog sinema o'r Rhyl a ddaeth yn wneuthurwr ffilmiau cyntaf erioed i fod wedi'i leoli yng Nghymru. Cafodd y ffilm ei saethu ym mis Ionawr 1898 (rhaid bod hi wedi bod yn oer i'r plant!) a'i dangos am y tro cyntaf yn Neuadd Dref y Rhyl.


2. Y ffilm dawel ‘Revenge!’, comedi antur ddwys. Fe wnaeth golygfeydd dramatig o erlid, rhyw a thrais y ffilm hon blesio cynulleidfaoedd ffeiriau pan gafodd ei rhyddhau ym 1904. Mae'r arwr, a chwaraeir gan Will Haggar Junior, wedi cael ei garcharu'n anghyfiawn mewn ysbyty meddwl gan y rheolwr, er mwyn i'r rheolwr allu denu gwraig yr arwr. Mae Will Junior yn dianc gan ddefnyddio rhaff o gynfasau wedi'u clymu, ac yn synnu'r rheolwr wrth iddo gofleidio ei wraig; fodd bynnag, yn y frwydr sy’n dilyn, caiff y wraig a'u merch fach eu saethu'n farw, ac mae ef yn cael ei ddal unwaith eto. Mae'n dianc eto ac yn ffoi ar hyd nant. Wedi'i gornelu ar ymyl clogwyn, mae'n taflu pedwar gwarchodwr i'w marwolaeth, ac yna'n dychwelyd i'r ysbyty i setlo'r sgôr – gan orffen gyda'r arwr yn tagu'r rheolwr â'i ddwylo noeth.


3. Dewch i weld Cymru yn erbyn Iwerddon ar y Cae Ras yn Wrecsam – o 1906! Yn yr hyn a allai fod y gêm bêl-droed ryngwladol gynharaf i'w chofnodi ar ffilm, mae Cymru'n chwarae yn erbyn Iwerddon mewn gêm ym Mhencampwriaeth y Gwledydd Cartref ar y Cae Ras yn Wrecsam. Mae torf fywiog yn annog Cymru (sy'n gwisgo'r cit tywyll) ymlaen. Roedd hon yn gêm lle sgoriwyd llawer o goliau, gan orffen gyda gêm gyfartal, pedwar gôl yr un.


4. Jerry the Tyke – cynhyrchwyd y cymeriad hwn gyntaf ym 1925 gan yr animeiddiwr Sid Griffiths a'r ffotograffydd Bert Bilby, y ddau ohonynt yn gweithio fel gweithredwyr taflunyddion yn Sinema Capitol Caerdydd. Ymddangosodd y ci direidus mewn sinemâu ledled y DU fel rhan o raglenni newyddion a nodweddion British Pathé. Wedi'i ysbrydoli gan y cartŵn Americanaidd Felix the Cat, roedd Jerry the Tyke yn gymysgedd o olygfeydd byw ac animeiddio; crëwyd 40 o ffilmiau animeiddiedig rhwng 1925 a 1927.


5. Enillodd ‘The Private Life of Gannets’ y wobr am y ffilm fer orau yng ngwobrau'r Oscars ym 1938; mae'n rhaglen ddogfen am nythfa o huganod ar ynys Gwales yn Sir Benfro.


6. Dewch i gwrdd â theithwyr bws 'Dial-a-Ride' ym Mannau Brycheiniog a phrofi bywyd o'u safbwynt hwy. Wrth deithio drwy gefn gwlad De Cymru, mae teithwyr y bws yn datgelu holl lawenydd, heriau a rhyfeddodau heneiddio. Mae'r ffilm yn dilyn y teithwyr a'u straeon wrth i'r tymhorau newid, ac yn cynnig golwg deimladwy a chalonogol ar beth mae'n ei olygu i heneiddio yng nghefn gwlad Prydain.


7. Dathlwch animeiddiadau enwog Joanna Quinn a Les Mills o'r cymeriad Beryl yn ‘Affairs of the Art’. Faint o obsesiynau all un teulu eu cael? Yn y ffilm hon, rydym yn ailymuno â Beryl – yr arwres o'r dosbarth gweithiol – sydd nid yn unig yn datgelu ei obsesiwn ei hun â thynnu lluniau, ond hefyd yn amlygu obsesiynau ei theulu ecsentrig, gan gynnwys piclo, sgriwiau a chadw anifeiliaid anwes wedi'u stwffio.

Carmen - Royal Opera (12A)

Carmen - Royal Opera

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Tuesday 10 Nov 202619:00 (Royal Opera)

CARMEN

The Royal Opera

 

Under the oppressive heat of the Spanish sun, the fiercely independent Carmen attracts the attention of Don José.


She warns him not to fall in love with her, but his obsession knows no bounds. Damiano Michieletto’s searing production returns, casting scorching light on the lust, violence and destructive desire of Bizet’s ever-popular opera.


An all-star cast brings this white-hot drama to life, with Ginger Costa-Jackson in the fiery title role, alongside Russell Thomas as the jealous and despairing Don José. Following his 2023 Royal Opera debut, Sesto Quatrini returns to conduct Bizet’s electrifying and sensual score.


A LIVE BROADCAST


Sung in French with English subtitles.


Approximate runtime: 3hours and 35 minutes with one interval.


Classification to be confirmed


*  *  *


O dan wres gormesol haul Sbaen, mae Carmen, sy'n ffyrnig ac annibynnol, yn denu sylw Don José. Mae hi'n ei rybuddio i beidio â syrthio mewn cariad â hi, ond nid oes terfyn ar ei obsesiwn. Mae cynhyrchiad Damiano Michieletto yn dychwelyd, gan daflu goleuni llosg ar chwant, trais ac awydd dinistriol opera boblogaidd Bizet.

 

Mae cast llawn sêr yn dod â'r ddrama boeth hon yn fyw, gyda Ginger Costa-Jackson yn y brif rôl danbaid, ochr yn ochr â Russell Thomas fel Don José cenfigennus ac anobeithiol. Yn dilyn ei ymddangosiad cyntaf yn y Royal Opera yn 2023, mae Sesto Quatrini yn dychwelyd i arwain sgôr drydanol a synhwyrus Bizet.


DANGOSFYDD FYW


Cânwyd yn Ffrangeg gyda isdeitlau Saesneg.


Amser rhedeg bras: 3 awr a 35 munud gyda un egwyl.

FFS-Kontinental 25 (15)

FFS-Kontinental 25

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Thursday 12 Nov 202619:30 (Fishguard Film Society.Subtitled)

Director:  Radu Jude/2025/Romania/Switzerland/Luxembourg/Brazil/UK/109’/Subtitles



Kontinental ’25 is a dark Romanian comedy by Radu Jude, director of the acclaimed Do Not Expect Too Much from the End of the World. It follows Orsolya, a bailiff in Cluj-Napoca, who faces a deep moral crisis after an evicted homeless man takes his own life.  


The movie wryly explores guilt, gentrification, and social indifference across modern Europe.


*  *  *


Cyfarwyddwr:  Radu Jude/2025/Romania/Switzerland/Luxembourg/Brazil/UK/109’/Isdeitlau


Comedi dywyll o Rwmania gan Radu Jude – cyfarwyddwr y ffilm glodwiw *Do Not Expect Too Much from the End of the World*. Mae’n dilyn hanes Orsolya, beili yn Cluj-Napoca, sy’n wynebu argyfwng moesol dwfn.  Mae dyn digartref, y gwnaeth Orsolya droi allan o’i dŷ, yn cymryd ei fywyd ei hun.


Mae’r ffilm yn archwilio themâu euogrwydd a difateralwch cymdeithasol ledled Ewrop fodern mewn ffordd ddeallus a llawn hiwmor.

FFS-Resurrection (15)

FFS-Resurrection

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Thursday 29 Oct 202619:30 (Fishguard Film Society.Subtitled)

Director: Bi Gan/2025/China/160’/Subtitles 


A scintillating journey through a century of cinema, the five senses, and the nature of dreams, Resurrection is the most ambitious work yet from director Bi Gan.


Split into five vignettes, the narrative is framed by the idea of a world where humanity has relinquished the ability to dream in exchange for immortality.


*  *  *


Cyfarwyddwr: Bi Gan/2025/China/160’/Isdeitlau


Y daith ddisglair hon drwy ganrif o sinema, y ​​pum synnwyr a natur breuddwydion – yw gwaith mwyaf uchelgeisiol y cyfarwyddwr Bi Gan hyd yma.


Wedi’i rannu’n bum golygfa fer, mae’r naratif yn seiliedig ar y syniad o fyd lle mae dynoliaeth wedi rhoi’r gorau i’r gallu i freuddwydio wrth ei gyfnewid am anfarwoldeb.

Fishguard's Got Talent 2026

Fishguard's Got Talent 2026

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Saturday 21 Nov 202619:00 (Live Talent Show)

FISHGUARD'S GOT TALENT


Following last year's SELL OUT, Fishguard's Got Talent IS BACK for another exciting show!


Get ready for a spectacular night of entertainment as talented performers take centre stage to dazzle and delight the audience.  Join in to help the judging panel decide who will be this year's star performers. You could win a prize with a free entry into our live 'Spin The Wheel' competition.


Fishguard’s Got Talent brings together the best of the theatre community for an unforgettable, joyous and fun evening. Join us for a night of excitement, drama and talent as the anticipation unfolds as to who will be the brightest Star.


Can you perform, play an instrumet, dance, do magic or comedy? Enter your act by completing the application form HERE


*  *  *


Yn dilyn sioe llwyddiannus llynedd, mae Fishguard's Got Talent yn nôl ar gyfer sioe gyffrous arall!


Paratowch am noson ysblennydd o adloniant wrth i berfformwyr talentog gymryd lle canol y llwyfan i syfrdanu a swyno'r gynulleidfa. Ymunwch i helpu'r panel beirniadu i benderfynu pwy fydd y perfformwyr seren eleni. Gallech ennill gwobr gyda mynediad am ddim i'n cystadleuaeth fyw 'Troelli'r Olwyn'.


Mae Fishguard’s Got Talent yn dod â'r gorau o'r gymuned theatr ynghyd am noson bythgofiadwy, llawen a hwyliog. Ymunwch â ni am noson o gyffro, drama a thalent wrth i'r disgwyl ddatblygu ynghylch pwy fydd y Seren ddisgleiriaf.


Allwch chi berfformio, chwarae offeryn, dawnsio, gwneud hudoliaeth neu gomedi? Mynychu trwy gwblhau'r ffurflen gais YMA

Gala Screening: Your Films, Our Screen (12A)

Gala Screening: Your Films, Our Screen

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Saturday 24 Oct 202614:00 (Welsh Film Festival - Free Entry) (Closed)

Your Films, Our Screen


A series of short films selected from our recent Open Call to film makers across Wales.


Novice and experienced creatives have sent in a wide range of short films in different formats. Our selection features drama, documentary, experiences from people's lives and some immersive art filming.


Celebrating 130 years of filmmaking in Wales, the festival brings together films, filmmakers and audiences for a very special weekend in our cinema.


A FREE EVENT


***


Eich Ffilmiau, Ein Sgrin


Cyfres o ffilmiau byr a ddewiswyd o’n Galwad Agored i wneuthurwyr ffilmiau ledeld Cymru.


Mae creadigwyr newudd a phrofiadol wedi anfon amrywiaeth lang o fflimiau byr men gwahanol fformatau. Mae ein detholiad yn cynnwys drama, dogen, profiadau o fywydau pobl, a rhywfaint o ffilmio celf drochi.


Gan ddathlu 130 mlynedd o wneud ffilmiau yng Nghymru, bydd y ŵyl yn dod â ffilmiau, gwneuthurwyr ffilmiau a'r gynulleidfa at ei gilydd ar gyfer penwythnos arbennig iawn yn ein sinema.


DIGWYDDIAD AM DDIM

Hedd Wyn & A Pack of Five (12A)

Hedd Wyn & A Pack of Five

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Sunday 25 Oct 202613:00 (Welsh Film Festival)

WELSH FILM FESTIVAL ~ GWYL FFILMIAU CYMRU



FREE FILMS We welcome your donation to help keep Theatr Gwaun's doors open for the community and for future generations.


FFILMIAU AM DDIM Rydym yn croesawu eich rhoddion i helpu i gadw drysau Theatr Gwaun ar agor i'r gymuned ac i genedlaethau'r dyfodol.



HEDD WYN


Cyfarwyddwr:  Paul Turner/UK/1992/110'/Isdeitlau


Mae bardd ifanc yng Ngogledd Cymru yn cystadlu am y Gadair – y wobr fwyaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol – dan yr enw barddol Hedd Wyn. 


Ond cyn cyhoeddi'r enillydd, caiff ei anfon i ymladd ochr yn ochr â'r Saeson yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf. Ceir gwaith sinematograffeg godidog, yn cyferbynnu'n llwyr harddwch cartref Hedd Wyn ym Meirionnydd ag erchyllterau Passchendaele. Amlygir oferedd rhyfel yn y ffilm hon – y ffilm gyntaf o Gymru i gael ei henwebu ar gyfer gwobr y Ffilm Iaith Dramor Orau yn yr Oscars.


Director:  Paul Turner/UK/1992/110'/Subtitled


A young poet in North Wales competes under his bardic name of Hedd Wyn for the Chair, the most coveted prize of all in the National Eisteddfod.


But before the winner is announced he is sent to fight with the English in the trenches of the First World War. The wonderful cinematography that starkly contrasts the beauty of his home in Meirionnydd with the horrors of Passchendaele demonstrates the futility of war in this, the first film from Wales to be nominated as Best Foreign Language film at the Oscars.




A PACK OF FIVE


Director:  John Parr/UK/2025/20’


Five soldiers share a joke, a smoke, and a moment of blessed peace from the battlefields of the Somme. They are five strangers unaware of the common bond that drew them there, and the sacred words they carried in their hearts that sustained them through the madness.


Cyfarwyddwr:  John Parr/UK/2025/20’


Mae pump o filwyr yn rhannu jôc, sigarét, ac eiliad o heddwch bendigedig oddi wrth faes brwydr y Somme. Pum dieithryn ydynt, heb fod yn ymwybodol o'r cwlwm cyffredin a'u dygodd yno, na'r geiriau cysegredig a gludent yn eu calonnau ac a'u cynhaliodd trwy'r gwallgofrwydd.




Manon - Royal Ballet (12A)

Manon - Royal Ballet

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Tuesday 27 Oct 202619:15 (Royal Ballet)

MANON

The Royal Ballet


In the seedy underbelly of 18th-century Paris, money is king. Nothing is sacred – even love itself can be bought for the right price.


A native of this hedonistic underworld, Manon is caught between twin desires when she falls in love with the student Des Grieux. Steadfast and devoted, he offers the possibility of an honourable life. Yet, the riches promised by the world of Parisian society remain tempting...


Manon’s inner turmoil and struggle for survival lie at the devastating heart of Kenneth MacMillan’s 1974 adaptation of Abbé Prévost’s novel. In this signature work of The Royal Ballet, MacMillan’s nuanced understanding of human psychology makes for an unflinching look into the moral degradation of Manon’s Paris, while all its decadence and decay are brought to life through Jules Massenet’s score and Nicholas Georgiadis’s designs.


LIVE BROADCAST


Approximate runtime: 3 hours and 10minutes with two intervals.


*  *  *


Yn strydoedd cefn Paris yn y 18fed ganrif, arian sy’n cyfri. Does dim byd yn gysegredig – gellir prynu hyd yn oed cariad ei hun am y pris iawn.


Yn frodor o’r byd tanddaearol hedonistaidd hwn, mae Manon yn cael ei dal rhwng dau chwant pan mae hi’n syrthio mewn cariad â’r myfyriwr Des Grieux. Yn ffyddlon ac ymroddedig, mae e’n cynnig y posibilrwydd o fywyd anrhydeddus. Ac eto, mae’r cyfoeth a addawyd gan fyd cymdeithas Paris yn parhau i fod yn demtasiwn...

 

Mae cynnwrf mewnol Manon a’i brwydr i oroesi wrth wraidd addasiad dinistriol Kenneth MacMillan o nofel yr Abbé Prévost ym 1974. Yn y gwaith nodweddiadol hwn o’r Bale Brenhinol, mae dealltwriaeth fanwl MacMillan o seicoleg ddynol yn rhoi cipolwg diysgog ar ddirywiad moesol Paris trwy llygaid Manon. Mae ei ddirywiad a’i bydredd yn cael eu synhwyro trwy sgôr Jules Massenet a dyluniadau Nicholas Georgiadis.


DANGOSFYDD BYW


Amser redeg bras: 3 awr a 10 munud gyda ddau egwyl.

NTL Golden Boy (15)

NTL Golden Boy

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Thursday 5 Nov 202619:00 (National Theatre Live)

Golden Boy


By Clifford Odets

Directed by Sam Yates


Josh O’Connor (The Crown; Challengers) leads the cast in this searing revival of Clifford Odets’ knockout American classic.


1930s New York, at the height of the Depression. Joe Bonaparte is a gifted young violinist with a future in music, until a chance at fame and fortune lures him into the brutal world of professional boxing. He must confront what he’s willing to sacrifice, who he’s willing to become and how to find his place in a world that demands he choose a side.


Brought to life with a live string quartet and filmed live from the Almeida Theatre, Olivier Award-winner Sam Yates (Vanya) directs this propulsive drama exploring ambition, identity, and the high price of success.


*  *  *


Golden Boy


Gan Clifford Odets

Cyfarwyddwr: Sam Yates


Josh O’Connor (The Crown; Challengers) sy’n arwain y cast yn yr atgynhyrchiad pwerus hwn o glasur Americanaidd hynod boblogaidd Clifford Odets.


Mae Efrog Newydd yn anterth y Dirwasgiad y 30au. Mae Joe Bonaparte yn feiolinydd ifanc dawnus a chanddo dyfodol mewn cerddoriaeth. Ond daw cyfle i ennill enwogrwydd a ffortiwn i’w ddenu i fyd creulon bocsio proffesiynol. Rhaid iddo ystyried yr hyn y mae’n fodlon aberthu, pwy y mae’n fodlon bod, a sut i ddod o hyd i’w le mewn byd sy’n pwyso arno i ddewis ochr.


Gyda chyfeiliant pedwarawd llinynnol byw ac wedi’i ffilmio’n fyw o Theatr Almeida, mae enillydd Gwobr Olivier, Sam Yates (Vanya), yn cyfarwyddo’r ddrama ysgogol hon sy’n archwilio uchelgais, hunaniaeth, a phris uchel llwyddiant.

On The Sea (15)

On The Sea

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Sunday 25 Oct 202619:30 (Welsh Film Festival)

WELSH FILM FESTIVAL - CLOSING PREMIERE


Director:  Helen Walsh/UK/2025/111’


Mussel farmer Jack (Barry Ward) lives with his wife and son in a remote fishing community in North Wales.


When itinerant fisher Daniel (Lorne MacFadyen) arrives, attraction and desire spark a relationship that could upend both of their lives.


***

 

Cyfarwyddwr:  Helen Walsh/UK/2025/111’


Mae Jack (Barry Ward), ffermwr cregyn gleision, yn byw gyda'i wraig a'i fab mewn cymuned bysgota anghysbell yng Ngogledd Cymru.


Pan fydd y pysgotwr crwydrol Daniel (Lorne MacFadyen) yn cyrraedd, mae atyniad a dyhead yn sbarduno perthynas a allai droi bywydau'r ddau ohonynt wyneb i waered.

Practical Magic 2 (12A)

Practical Magic 2

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Wednesday 28 Oct 202619:30 (Subtitled)
Friday 30 Oct 202619:30
Sunday 1 Nov 202616:00

Director:  Susanne Bier/USA/2026/130’


Set twenty-five years after the events of the first film, the Owens family face a new multi-generational crisis as they struggle to finally break the curse that has haunted their lineage for centuries.


Starring Sandra Bullock, Nicole Kidman, Stockard Channing, Dianna Wiest, Joey King and Maisie Williams.


***


Cyfarwyddwr:  Susanne Bier/USA/2026/130’


Wedi'i osod bum mlynedd ar hugain ar ôl digwyddiadau'r ffilm gyntaf, mae teulu Owens yn wynebu argyfwng newydd sy'n ymestyn dros sawl cenhedlaeth. Maent yn ymdrechu i dorri'r felltith sydd wedi plagio eu llinach ers canrifoedd unwaith ac am byth.


Yn serennu Sandra Bullock, Nicole Kidman, Stockard Channing, Dianna Wiest, Joey King a Maisie Williams.

Sense and Sensibility. (U)

Sense and Sensibility.

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Sunday 1 Nov 202619:30
Monday 2 Nov 202611:00

Director:  Georgia Oakley/UK,USA/2026/131’


In this irresistible new take on Austen’s classic, sisters Elinor (Daisy Edgar-Jones) and Marianne (Esmé Creed-Miles) face love and heartbreak after their father’s death forces their family into more humble circumstances.


Also starring Caitríona Balfe, George MacKay, Herbert Nordrum, Frank Dillane and Fiona Shaw.


***


Cyfarwyddwr:  Georgia Oakley/UK,USA/2026/131’


Yn y fersiwn newydd a deniadol hon o glasur Austen, mae'r chwiorydd Elinor (Daisy Edgar-Jones) a Marianne (Esmé Creed-Miles) yn wynebu cariad a thor-calon ar ôl i farwolaeth eu tad orfodi'r teulu i fyw mewn amgylchiadau mwy cymedrol.


Hefyd yn serennu mae Caitríona Balfe, George MacKay, Herbert Nordrum, Frank Dillane a Fiona Shaw.

Shaun The Sheep: The Beast of Mossy Bottom (U)

Shaun The Sheep: The Beast of Mossy Bottom

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Monday 26 Oct 202619:30
Tuesday 27 Oct 202614:00
Thursday 29 Oct 202614:00

Director:  Steve Cox,Matthew Walker/UK,USA/2026/80’


On Halloween Eve at Mossy Bottom Farm, excitement turns to dismay when the clumsy farmer ruins the flock’s pumpkin patch. Shaun tries to fix it with a mad science experiment, but things only get worse when the farmer goes missing and a wild beast appears in the woods.


Voiced by Justin Fletcher, John Sparkes and Nina Sosyana.


***


Cyfarwyddwr:  Steve Cox,Matthew Walker/UK,USA/2026/80’


Ar noswyl Calan Gaeaf yn Fferm Mossy Bottom, mae cyffro'n troi'n siom pan fydd y ffermwr lletchwith yn difetha gardd pwmpenni y ddiadell. Mae Shaun yn ceisio cywiro’r sefyllfa gydag arbrawf gwyddoniaeth wallgof, ond mae pethau'n gwaethygu pan fydd y ffermwr yn diflannu ac anifail gwyllt yn ymddangos yn y goedwig.


Lleisiau gan Justin Fletcher, John Sparkes a Nina Sosyana.

Twin Town (18)

Twin Town

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Saturday 24 Oct 202618:00 (Welsh Film Festival)

WELSH FILM FESTIVAL - CELEBRATING 130 YEARS OF FILMMAKING IN WALES


Director:  Kevin Allen/UK/1998/95’


Bryn Cartwright is a local kingpin who rules the roost until handyman Fatty Lewis, falls off a ladder on a Cartwright job. Fatty’s twin junkie grandsons, Julian and Jeremy attempt to procure compensation from Cartwright, who refuses to pay up. The doped-up Julian and Jeremy then proceed to inflict anarchy on anyone they encounter whilst local policemen, Terry and Greyo, employ their own dubious peacekeeping methods as events spiral out of control.


The film follows a Live Q&A by Director Kevin Allen.


Celebrating 130 years of filmmaking in Wales, the festival will bring together films, filmmakers and audiences for a very special weekend in our cinema.


***


Cyfarwyddwr:  Kevin Allen/UK/1998/95’


Mae Bryn Cartwright yn ffigwr pwerus yn yr ardal. Mae’n rheoli'r dref nes i’w weithiwr, Fatty Lewis syrthio oddi ar ysgol wrth wneud gwaith i Cartwright. Mae wyrion efaill Fatty – Julian a Jeremy, sy'n gaeth i gyffuriau – yn ceisio cael iawndal gan Cartwright, ond mae yntau'n gwrthod talu. O dan ddylanwad cyffuriau, mae Julian a Jeremy yn achosi anhrefn i unrhyw un maen nhw'n dod ar eu traws, tra bod y plismyn lleol, Terry a Greyo, yn defnyddio eu dulliau amheus eu hunain o gynnal trefn wrth i'r sefyllfa hedfan allan o reolaeth.


Mae'r ffilm yn dilyn Holi ac Ateb Byw gan y Cyfarwyddwr Kevin Allen.


Gan ddathlu 130 mlynedd o wneud ffilmiau yng Nghymru, bydd y ŵyl yn dod â ffilmiau, gwneuthurwyr ffilmiau a'r gynulleidfa at ei gilydd ar gyfer penwythnos arbennig iawn yn ein sinema.