Menu
Purchase

FFoM - Geoff Eales Trio

FFoM - Geoff Eales Trio

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Saturday 26 Jul 202519:30

GEOFF EALES TRIO


‘Celtic Stories’

The highly-acclaimed Geoff Eales Trio present a programme of music that celebrates Welsh history and culture. You will hear fresh interpretations of Welsh folk melodies such as Lisa Lan, Bugeilio’r Gwenith Gwyn and the Gower Wassail, as well as several new works by Geoff written especially for the festival.


‘Storïau Celtaidd’

Mae Triawd Geoff Eales wedi derbyn canmoliaeth uchel a byddant yn cyflwyno rhaglen o gerddoriaeth sy’n dathlu hanes a diwylliant Cymru. Bydd y perfformiad yn cynnwys dehongliadau newydd o alawon gwerin Cymreig megis Lisa Lan, Bugeilio’r Gwenith Gwyn a’r Gower Wassail, yn ogystal â nifer o weithiau newydd gan Geoff a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer yr Ŵyl.


FFoM - Young Music Makers of Dyfed

FFoM - Young Music Makers of Dyfed

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Sunday 27 Jul 202519:30

YOUNG MUSIC MAKERS OF DYFED


This concert, co-presented with Young Music Makers of Dyfed, showcases some of the finest young musicians in the area and has become an intrinsic part of the festival. Over the years, several musicians who have performed at this event have gone on to have professional careers in music.


Cyflwynir y cyngerdd hwn ar y cyd gyda Cerddorion Ifainc Dyfed ac erbyn hyn mae’n rhan anatod o’r Ŵyl. Rhoddir llwyfan i rai o gerddorion ifainc mwyaf disglair yr ardal a dros y blynyddoedd mae nifer o’r cerddorion fu’n perfformio yn y cyngerdd hwn wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd proffesiynol mewn cerddoriaeth.


Big Star: The Nick Skelton Story (PG)

Big Star: The Nick Skelton Story

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Monday 28 Jul 202511:00
Thursday 31 Jul 202519:30

Director:  Sarah George/2025/UK/102mins


This documentary chronicles the life and career of British show jumping legend Nick Skelton (CBE). 


It shows his life from his first time on a horse, at just 18 months old, to his heroic comeback, winning two Olympic gold medals, after a devastating neck injury which threatened to end his career.    


Nick’s passion and perseverance drove him to 7 Olympic games and inspired athletes in the sport worldwide.​  The film includes interviews with Nick’s family, and with key members of the British Equestrian Community.


*  *  *  *  *

 

Cyfarwyddwr:  Sarah George/2025/UK/102munud


Mae'r rhaglen ddogfen hon yn croniclo bywyd a gyrfa'r arwr neidio ceffylau Prydeinig Nick Skelton (CBE).


Mae’n dangos ei fywyd o’i brofiad cyntaf ar gefn ceffyl, ac yntau ond yn 18 mis oed, i’w ddychweliad arwrol, i ennill dwy fedal aur Olympaidd, ar ôl anaf difrifol i’w wddf a fygythiodd ddod â’i yrfa i ben.


Angerdd a dyfalbarhad Nick a’i gyrrodd i 7 Gemau Olympaidd ac ysbrydolodd athletwyr yn y gamp ledled y byd. Mae’r ffilm yn cynnwys cyfweliadau â theulu Nick, a chyda aelodau allweddol o Gymuned Farchogaeth Prydain.


 

28 Years Later (15)

28 Years Later

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Monday 28 Jul 202519:30

Director:  Danny Boyle/2024/ UK,USA/115mins


28 years after the initial Rage virus outbreak, a group of survivors live on a small island connected to the mainland by a single, heavily defended causeway.


When a father and son venture into the dark heart of the mainland, they discover a mutation that has spread to not only the infected, but other survivors as well.


Starring Jodie Comer, Aaron Taylor-Johnson and Ralph Fiennes.


*  *  *  *  *


Cyfarwyddwr:  Danny Boyle/2024/ UK,USA/115munud


28 mlynedd ar ôl yr achos cychwynnol o firws Rage, mae grŵp o oroeswyr yn byw ar ynys fach sydd wedi'i chysylltu â'r tir mawr gan un sarn, sy’n cael ei hamddiffyn yn drwm.


Pan fydd tad a mab yn mentro i galon dywyll y tir mawr, maen nhw'n darganfod esiamplau o’r salwch sydd wedi lledaenu nid yn unig i'r heintiedig, ond i oroeswyr eraill hefyd.


Yn serennu Jodie Comer, Aaron Taylor-Johnson a Ralph Fiennes.


F1 - The Movie (12A)

F1 - The Movie

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Tuesday 29 Jul 202519:30
Wednesday 30 Jul 202519:30 (Subtitled)
Friday 1 Aug 202519:30
Saturday 2 Aug 202519:30

Director:  Joseph Kosinski/2025/USA/156mins


Sonny Hayes (Brad Pitt), a promising Formula One driver in the 1990s, has his life ruined when a horrific crash forces him to retire.


Thirty years later, Sonny gets the chance to return to racing when the owner of a struggling Formula One team asks him to mentor a rookie prodigy.


Directed and written by Joseph Kosinski.  Also starring Kerry Condon and Javier Bardem.


*  *  *  *  *


Cyfawrwyddwr:  Joseph Kosinski/2025/USA/156munud


Mae bywyd Sonny Hayes (Brad Pitt), gyrrwr Fformiwla Un addawol yn y 1990au, yn cael ei ddifetha pan fydd damwain erchyll yn ei orfodi i ymddeol.


Ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, mae Sonny yn cael y cyfle i ddychwelyd i rasio pan fydd perchennog tîm Fformiwla Un sydd mewn trafferthion yn gofyn iddo fentora gyrrwr ifanc addawol ond dibrofiad.


Cyfeiriwyd ac ysgrifennwyd gan Joseph Kosinski. Hefyd yn serennu Keri Condon a Javier Bardem.

Elio (PG)

Elio

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Wednesday 30 Jul 202511:00 (Relaxed - Subtitled)14:00 (Parent & Toddler - Subtitled)

Director:  Adrian Molina,Domee Shi,Madelie Sharaftan/2023/USA/95mins


11-year-old Elio, a space fanatic obsessed with aliens, longs to be abducted and make first contact. His wish comes true when he’s beamed up to the Communiverse, an interplanetary organisation with alien representatives from all over the universe. But when he’s mistakenly identified as Earth’s ambassador, Elio must navigate a crisis of intergalactic proportions.


*  *  *  *  *


Cyfarwyddw:  Adrian Molina,Domee Shi,Madelie Sharaftan/2023/USA/95munud


Mae Elio, sy'n 11 oed, yn dwli am y gofod ac mae ganddo obsesiwn ag estroniaid. Mae’n dyheu am gael ei herwgipio a gwneud ‘y cyswllt cyntaf’. Daw ei ddymuniad yn wir pan fydd yn cael ei godi i’r Communiverse, sefydliad rhyngblanedol gyda chynrychiolwyr estron o bob rhan o’r bydysawd. Ond pan gaiff ei adnabod ar gam fel llysgennad o’r Ddaear, rhaid i Elio gamu’n ofalus o fewn argyfwng rhyngalaethol.

Jurassic World: Rebirth (12A)

Jurassic World: Rebirth

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Friday 1 Aug 202514:00
Saturday 2 Aug 202511:00 (Kids Club)
Tuesday 5 Aug 202519:30
Wednesday 6 Aug 202511:00 (Relaxed. Subtitles.)14:00 (Parent & Baby/Toddler. Subtitles)

Director: Gareth Edwards/2025/USA/133mins


On an island research facility for the original Jurassic Park, a team of skilled operatives embark on a mission to secure genetic material from dinosaurs whose DNA can provide life-saving benefits to mankind. As the top-secret expedition becomes more risky, they make a shocking, sinister discovery that’s been hidden from the world for decades.


Starring Scarlett Johansson as Zora Bennett and Jonathon Bailey as Dr. Henry Loomis.


*  *  *  *  *


Cyfarwyddwr: Gareth Edwards/2025/USA/133munud


Ar ynys sy’n leoliad cyfleuster ymchwil ar gyfer y Parc Jwrasig gwreiddiol, mae tîm o weithwyr medrus yn gweithio.  Eu cenhadaeth yw sicrhau deunydd genetig gan ddeinosoriaid y gall eu DNA ddarparu buddion achub bywyd i ddynolryw. Ond wrth i’w taith gyfrinachol ddod yn fwy peryglus, maen nhw’n gwneud darganfyddiad ysgytwol, sinistr sydd wedi bod yn gudd o’r byd ers degawdau.


Yn serennu Scarlett Johansson fel Zora Bennett a Jonathon Bailey fel Dr. Henry Loomis.

Jane Austen Wrecked My Life (15)

Jane Austen Wrecked My Life

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Sunday 3 Aug 202519:30
Monday 4 Aug 202511:00

Director:   Laura Piani/2025/France/98mins/Subtitles 


Agathe, a French bookseller, dreams of being a successful writer and experiencing a love akin to a Jane Austen novel. Instead, she’s desperately single and plagued by writer’s block.


When she receives an invitation to the Jane Austen Writers’ Residency in England, her very own Jane Austen moment comes when she finds herself in the middle of an unexpected love triangle.


A french romantic comedy film written and directed by Laura Piani.


Starring Camille Rutherford, Pablo Pauly and Charlie Anson.


*  *  *  *  *


Cyfarwyddwr:  Laura Piani/2025/France/98munud/Isdeitlau


Mae Agathe, llyfrwerthwr o Ffrainc, yn breuddwydio am fod yn awdur llwyddiannus a phrofi cariad tebyg i nofel Jane Austen. Yn lle hynny, mae hi'n enbyd o unig ac wedi'i plagio gan ddiffyg awen.


Pan gaiff wahoddiad i Gwrs Preswyl i Awduron Jane Austen yn Lloegr, daw ei ‘chyfle Jane Austen’ ei hun pan gaiff ei dal yng nghanol triongl cariad annisgwyl.


Ffilm gomedi ramantus Ffrengig wedi'i hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan Laura Piani.


Yn serennu Camille Rutherford, Pablo Pauly a Charlie Anson. 

Ein Hanes-The Entangled Histories of Wales and Ukraine

Ein Hanes-The Entangled Histories of Wales and Ukraine

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Wednesday 6 Aug 202518:00 (Live Talk)

The Entangled Histories of Wales and Ukraine


Speaker: Professor Victoria Donovan


In 1870, engineer John Hughes, from Merthyr, and about 100 (mainly Welsh) workers built a steelworks, with hospital, school and church, in Donbas, in what was then the Russian Empire, founding the community of Hughesovka, later to become the Ukrainian city of Donetsk. How fortunes change!

 

Professor Donovan tells the story, one from her new book ‘Life in Spite of Everything’, celebrating Ukraine’s past and present, its people’s tenacity, creativity and independence.

 

Bucket Collection to support Ukraine's humanitarian aid.


The proceeds raised from the Bucket Collection will be donated to Free Filmers, a film making and arts collective originally from Mariupol now delivering humanitarian aid around the frontline territories.


Further reading:

https://help-freefilmers.network/ 


https://www.st-andrews.ac.uk/modern-languages/people/russian/vsd2


To be followed by a finger buffet at Peppers at 8:00pm.

Book separately at: myles.westwalesarts@icloud.com (Tickets £20).


*  *  *  *  *


Siaradwr: Proffeswr Victoria Donovan


Ym 1870, adeiladodd y peiriannydd John Hughes, o Ferthyr, a thua 100 o weithwyr (Cymreig yn bennaf) waith dur, gydag ysbyty, ysgol ac eglwys, yn Donbas, yn yr hyn a oedd bryd hynny yn Ymerodraeth Rwsia, gan sefydlu cymuned Hughesovka, a fyddai'n ddiweddarach yn ddinas Donetsk yn Wcráin. Sut mae ffawd yn newid!


Mae'r Proffeswr Donovan yn adrodd y stori, un o'i llyfr newydd 'Life in Spite of Everything', yn dathlu gorffennol a phresennol Wcráin, dygnwch, creadigrwydd ac annibyniaeth ei phobl.


Casgliad Bwcedi i gefnogi cymorth dyngarol Wcráin.


Bydd yr elw a godir o'r Casgliad Bwced yn cael ei roi i Free Filmers, cydweithfa gwneud ffilmiau a chelfyddydau sy'n wreiddiol o Mariupol sydd bellach yn darparu cymorth dyngarol o amgylch y tiriogaethau rheng flaen.


Gwybodaeth ychwanegol:

https://help-freefilmers.network/ 


https://www.st-andrews.ac.uk/modern-languages/people/russian/vsd2


I'w ddilyn gan fwffe bys a bawd yn Peppers am 8:00yh.

Archebwch ar wahân yn: myles.westwalesarts@icloud.com (Tocynnau £20).

FFS Good One (15)

FFS Good One

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Thursday 7 Aug 202519:30 (Fishguard Film Society)

Director: India Donaldson/2024/USA/89mins


During a weekend backpacking trip in the Catskills, 17-year-old Sam navigates the clash of egos between her father and his oldest friend in this smart, sympathetic and terrifically acted coming

of-age drama set in a wilderness where beauty and danger are ever-present.


Starring Lily Collias, James LeGros and Danny McCarthy.


*  *  *  *  *


Cyfarwyddwr: India Donaldson/2024/USA/89mun


Yn ystod trip bagiau penwythnos yn y Catskills, mae Sam, 17 oed, yn navigo'r gwrthdaro egos rhwng ei thad a'i ffrind hynaf yn y dramâu sy'n dod yn oed sydd yn gannyl yn glyfar, cydymdeimladus a chyffrous, wedi'i leoli mewn gwyllt lle mae harddwch a pherygl yn bresennol bob amser.


Yn serennu Lily Collias, James LeGros a Danny McCarthy.

Superman (12A)

Superman

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Friday 8 Aug 202519:30
Saturday 9 Aug 202511:00 (Kids Club)19:30
Wednesday 13 Aug 202511:00 (Relaxed. Subtitled)13:30 (Parent & Baby/Toddler. Subtitled)

Director:  James Gunn/2024/USA,Canada,Australia,New Zealand/129mins


Is it a bird? Is it a plane? No, it’s Superman flying onto our screens once more!


When Superman gets drawn into conflicts at home and abroad, his actions are called into question - giving tech billionaire Lex Luthor the opportunity to get the Man of Steel out of the way for good.


Starring David Corenswet, Rachel Brosnahan and Nicholas Hoult.


*  *  *  *  *


Cyfarwyddwr:  James Gunn/2024/USA,Canada,Australia,New Zealand/129munud


Ai aderyn ydy e? Awyren ydy e? Na, Superman yn hedfan ar ein sgriniau unwaith eto!


Pan fydd Superman yn cael ei dynnu i mewn i wrthdaro, gartref a thramor, mae ei weithredoedd yn cael eu cwestiynu - gan roi cyfle i'r biliwnydd technoleg Lex Luthor gael gwared ar y Dyn Dur am byth.


Yn serennu David Corenswet, Rachel Brosnahan a Nicholas Hoult.


A New Kind of Wilderness (12A)

A New Kind of Wilderness

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Sunday 10 Aug 202519:30 (Partly Subtitled)
Monday 11 Aug 202511:00 (Partly subtitled)

Director:   Silje Evensmo Jacobsen/2024/UK/84mins/Subtitles


In this beautiful and intimate documentary, the Payne family strive to be wild and free by living an isolated and self-sufficient life on a small farm in a Norwegian forest. But when tragedy upends their idyllic world, they are forced to forge a new path into modern society.


This film is partly spoken in Norwegian with English subtitles.


*  *  *  *  *


Cyfarwyddwr:  Silje Evensmo Jacobsen/2024/UK/84munud/Isdeitlau


Yn y rhaglen ddogfen hardd a phersonol hon, mae teulu Payne yn ymdrechu i fod yn wyllt ac yn rhydd trwy fyw bywyd ynysig a hunangynhaliol ar fferm fach mewn coedwig yn Norwy. Ond pan fydd trasiedi yn troi eu byd delfrydol drosodd, maen nhw'n cael eu gorfodi i greu llwybr newydd i gymdeithas fodern.


Mae'r ffilm hon wedi'i llefaru'n rhannol yn Norwyeg gydag isdeitlau Saesneg.

Barbie. (12A)

Barbie.

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Tuesday 12 Aug 202519:00

Director: Greta Gerwig/2022/USA,UK/114mins


Barbie and Ken are having the time of their lives in Barbie Land until one day a question changes everything. Barbie is forced to go into the real world where there are few simple answers.


Barbie is not a Christian film, but it raises big questions that Christianity has always wrestled with.


The churches in Fishguard invite you to come and enjoy the movie for free then take part in a short discussion over free ice-cream about what it means to be a person.


Everyone is welcome – of any faith or none!


*  *  *  *  *


Cyfarwyddwr: Greta Gerwig/2022/USA,UK/114munud


Mae Barbie a Ken yn cael amser eu bywydau yn Ngwlad Barbie nes un diwrnod, mae cwestiwn yn newid popeth. Mae Barbie yn cael ei gorfodi i fynd i'r byd go iawn lle nad oes llawer o atebion syml.


Nid ffilm Gristnogol yw Barbie, ond mae'n codi cwestiynau mawr y mae Cristnogaeth wedi ymgodymu â nhw erioed.


Mae eglwysi Abergwaun yn eich gwahodd i ddod i fwynhau'r ffilm am ddim ac yna cymryd rhan mewn trafodaeth fer dros hufen iâ am ddim am yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn berson.


Croeso i bawb – o unrhyw ffydd neu ddim ffydd!



Ocean with David Attenborough (PG)

Ocean with David Attenborough

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Wednesday 13 Aug 202519:30 (Subtitled)

Directors: Colin Butfield,Toby Nolan,Keith Scholey/2025/UK/95mins


The celebrated broadcaster and filmmaker uses this powerful documentary to take you on a breath-taking journey through the planet’s wondrous undersea habitats, revealing the greatest age of ocean discovery and emphasising the ocean’s vital importance, while exposing the realities and challenges it faces, and highlighting the hope in its potential to recover.


*  *  *  *  *


Cyfarwyddwyr: Colin Butfield,Toby Nolan,Keith Scholey/2025/UK/95munud 


Mae’r darlledwr a’r gwneuthurwr ffilmiau enwog yn defnyddio’r ffilm ddogfen bwerus hon i fynd â chi ar daith syfrdanol trwy gynefinoedd tanfor rhyfeddol y blaned. Mae’n trafod oes fwyaf darganfod morol a phwysleisio pwysigrwydd hanfodol y cefnfor, gan amlygu’r realiti a’r heriau sy’n ei wynebu, a thynnu sylw at y gobaith sy’n ei botensial i adfer.


 

FFS Soundtrack to a Coup D’Etat (12A)

FFS Soundtrack to a Coup D’Etat

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Thursday 14 Aug 202519:30 (Fishguard Film Society.Subtitled)

Director: Johan Grimonprez/2024/Belgium,France,Netherlands/150mins/Subtitles


As a prelude to Aberjazz, a breathtaking journey weaving together jazz from the likes of Armstrong, Gillespie and Coltrane with decolonisation in this historical rollercoaster that rewrites the Cold War episode that led musicians to crash the UN Security Council in protest against the murder of Patrice Lumumba.  


Starring: Louis Armstrong, Nina Simone, John Coltrane, Malcolm X.


*  *  *  *  *


Cyfarwyddwr: Johan Grimonprez/2024/Belguiwm,Ffrainc,Yr Iseldiroedd/150munud/Isdeitlau


Fel rhagflas i Aberjazz, taith syfrdanol sy'n golygu gwirioneddol jazz gan gynnwys Armstrong, Gillespie a Coltrane gyda decolonisation yn y rholercast hanesyddol hwn sy'n ailymddangos episod y Rhyfel Oer a arweiniodd cerddorion i ddirywio Cyngor Diogelwch y DU mewn protest yn erbyn lladd Patrice Lumumba.


Yn serennu: Louis Armstrong, Nina Simone, John Coltrane, Malcolm X.

Smurfs (U)

Smurfs

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Friday 15 Aug 202518:00
Saturday 16 Aug 202511:00 (Kids Club)
Sunday 17 Aug 202516:00
Wednesday 20 Aug 202511:00 (Relaxed. Subtitled)

Director:  Chris Miller,Matt Landon/2025/USA,Belgium,Italy/92mins


When Papa Smurf is mysteriously taken by evil wizards Gargamel and Razamel, Smurfette leads the Smurfs on a mission into the real world to save him.


With the help of new friends, the Smurfs must discover what defines their destiny to save the universe.


With a star-studded cast of Rihanna, James Corden, and John Goodman.


*  *  *  *  *


Cyfarwyddwr:  Chris Miller,Matt Landon/2025/USA,Belgium,Italy/92munud


Pan gaiff Papa Smurf ei gipio’n ddirgel gan y dewiniaid drwg Gargamel a Razamel, mae Smurfette yn arwain y Smurfs ar genhadaeth i’r byd go iawn i’w achub. Gyda chymorth ffrindiau newydd, rhaid i’r Smurfs ddarganfod beth sy’n diffinio eu tynged i achub y bydysawd, gyda Rihanna, James Corden, a John Goodman yn serennu.


Gyda chast llawn sêr o Rihanna, James Corden, a John Goodman.

The Salt Path (12A)

The Salt Path

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Saturday 16 Aug 202519:30

Director:  Marianne Elliot/2024/UK/115mins


Left homeless after legal trouble, a married couple seek solace by embarking on a yearlong coastal trek after the husband is diagnosed with a devastating terminal illness.


Based on the acclaimed best-selling memoir of the same name, this beautiful and profound drama stars Gillian Anderson and Jason Isaacs.


Cyfarwyddwr:  Marianne Elliot/2024/UK/115munud


Wedi eu gadael yn ddigartref ar ôl trafferthion cyfreithiol, mae pâr priod yn ceisio cysur trwy gychwyn ar daith arfordirol am flwyddyn ar ôl i'r gŵr gael diagnosis o salwch terfynol.


Yn seiliedig ar y cofiant clodwiw o’r un enw, mae’r ddrama hardd a dwys hon yn serennu Gillian Anderson a Jason Isaacs.

Four Letters of Love (12A)

Four Letters of Love

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Sunday 17 Aug 202519:30
Monday 18 Aug 202511:00
Wednesday 20 Aug 202513:30 (Parent & Baby/Toddler. Subtitled)19:30 (Subtitled)

Director: Polly Steele/2025/UK,Ireland/110mins


Nicholas and Isabel were made for each other, but fate doesn’t always take the easiest or most obvious route to true love.


While destiny contrives to pull the threads of their lives together, family, passion, and faith drive them apart.


Starring Helena Bonham Carter, Gabriel Byrne, and Pierce Brosnan.


*  *  *  *  *


Cyfawyddwr:  Polly Steele/2025/UK,Ireland/110munud


Cafodd Nicholas ac Isabel eu gwneud ar gyfer ei gilydd, ond nid yw ffawd bob amser yn cymryd y llwybr hawsaf na mwyaf amlwg i wir gariad.


Tra bod ffawd yn llwyddo i dynnu edafedd eu bywydau at ei gilydd, mae teulu, angerdd a ffydd yn eu gwahanu.


Gyda Helena Bonham Carter, Gabriel Byrne a Pierce Brosnan yn serennu.


Protein (18)

Protein

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Thursday 21 Aug 202519:30

Director:  Tony Burke/2024/UK/98mins


Sean, a traumatised ex-soldier returns to his home in South Wales, where he becomes workout and gym-obsessed.


When he murders and eats a local drug dealer for their protein, his gruesome deed sends shockwaves through the local criminal underworld and inadvertently sparks a brutal and bloodthirsty tit-for-tat turf war between rival drug gangs.


Filmed in Llanelli, Swansea and Ammanford.


Read the whole story here: https://filmhubwales.org/en/protein-the-whole-story/


Starring Craig Russell, Steve Meo and Kai Owen.


*  *  *  *  *


Cyfarwyddwr: Tony Burke/2024/UK/98munud


Mae Sean, cyn-filwr sydd wedi cael trawma, yn dychwelyd i'w gartref yn Ne Cymru, lle mae'n datblygu obsesiwn am ymarfer corff a'r gampfa.


Wedi iddo lofruddio a bwyta deliwr cyffuriau lleol am bod angen protein arno, mae ei weithred erchyll yn anfon tonnau sioc drwy'r isfyd troseddol lleol. Yn anfwriadol mae Sesn ync sbarduno rhyfel tiriogaeth creulon a gwaedlyd rhwng gangiau cyffuriau cystadleuol.


Wedi'i ffilmio yn Llanelli, Abertawe a Rhydaman.


Darllenwch y stori gyfan yma: https://filmhubwales.org/cy/protein-the-whole-story/


Yn serennu Craig Russell, Steve Meo a Kai Owen.

Ma Bessie's Speakeasy

Ma Bessie's Speakeasy

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Friday 22 Aug 202518:00

Ma Bessie's Speakeasy play the music of Bessie Smith, one of the most popular female blues singers in the 1920's and 30's.


This is a narrated show, featuring music from the era, and showcasing many of Bessie’s songs.


The show chronicles her life, from a one-room shack in Blue Goose Hollow, to becoming the highest paid black entertainer of that time, to the tragic accident on Route 61 that ended her life, aged just 43 years.


Julia Titus / Ma Bessie on Vocals

Clare Hirst on Sax/Clarinet

Claude Deppa on Trumpet

George Webster on Piano

Luke Trenwith on drums

Dominic Geraghty On Bass


*  *  *  *  *


Mae Speakeasy Ma Bessie yn chwarae cerddoriaeth Bessie Smith, un o gantorion y blues benywaidd mwyaf poblogaidd yn y 1920au a'r 30au.


Sioe adrodd yw hon, yn cynnwys cerddoriaeth o'r cyfnod, ac yn arddangos llawer o ganeuon Bessie.


Mae'r sioe yn croniclo ei bywyd, o gwt un ystafell yn Blue Goose Hollow, i ddod yn ddiddanwr du â'r cyflog uchaf ar y pryd, i'r ddamwain drasig ar Route 61 a ddaeth â'i bywyd i ben, yn 43 oed yn unig.


Julia Titus / Ma Bessie ar y Llais

Clare Hirst ar y Sacsoffon/Clarinét

Claude Deppa ar y Trwmped

George Webster ar y Piano

Luke Trenwith ar y drymiau

Dominic Geraghty ar y Bas

7 Steps Music of Miles Davis

7 Steps Music of Miles Davis

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Saturday 23 Aug 202519:30

"Seven Steps - the Music of Miles Davis" is a project led by Tomos Williams, a prominent figure in the Welsh jazz scene.


This ensemble pays tribute to the legendary Miles Davis, exploring his iconic compositions and innovative style. Tomos Williams, heavily influenced by Davis' music, brings together talented musicians to reinterpret and celebrate Davis' legacy.


Tomos Williams (trumpet) will be joined by leading Welsh jazz pianist, Dave Jones, Joe Northwood on tenor sax, Mark O'Conner on drums and Aidan Thorne on double bass performing the music of this iconic jazz genius from the 60's.


*  *  *  *  *


Mae "Saith Cam - Cerddoriaeth Miles Davis" yn brosiect dan arweiniad Tomos Williams, ffigur amlwg yn y sîn jazz Gymreig.


Mae'r ensemble hwn yn talu teyrnged i'r chwedlonol Miles Davis, gan archwilio ei gyfansoddiadau eiconig a'i arddull arloesol. Mae Tomos Williams, wedi'i ddylanwadu gan gerddoriaeth Davis, yn dod â cherddorion talentog ynghyd i ail-ddehongli a dathlu gwaddol Davis.


Bydd Tomos Williams (trwmped) yn cael ei ymuno gan y pianydd jazz blaenllaw o Gymru, Dave Jones, Joe Northwood ar y sacsoffon tenor, Mark O'Conner ar y drymiau ac Aidan Thorne ar y bas dwbl yn perfformio cerddoriaeth yr athrylith jazz eiconig hon o'r 60au.

The Fantastic Four: First Steps (12A)

The Fantastic Four: First Steps

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Sunday 24 Aug 202511:00
Tuesday 26 Aug 202518:30
Wednesday 27 Aug 202511:00 (Relaxed. Subtitled)

Director:  Matt Shakman/2025/USA/115mins


Pedro Pascal, Vanessa Kirby, Joseph Quinn, and Ebon Moss-Bachrach star as Mister Fantastic, Invisible Woman, Human Torch, and The Thing - better known as The Fantastic Four.


On a parallel Earth, the superheroes face their most daunting challenge yet as they defend their world from the planet-devouring cosmic being Galactus and his herald, the Silver Surfer.  

 

Starring Pedro Pascal, Vanessa Kirby, Ebon Moss-Bachrach and Joseph Quinn.


*  *  *  *  *


Cyfarwyddwr:  Matt Shakman/2025/USA/115munud


Mae Pedro Pascal, Vanessa Kirby, Joseph Quinn, ac Ebon Moss-Bachrach yn serennu fel Mister Fantastic, Invisible Woman, Human Torch, a The Thing - sy'n fwy adnabyddus fel The Fantastic Four.


Ar Ddaear gyfochrog, mae'r uwcharwyr yn wynebu eu her fwyaf brawychus hyd yma wrth iddynt amddiffyn eu byd rhag y bod cosmig Galactus sy'n bwyta planedau a'i gymorthyddc, y Silver Surfer.


Yn serennu Pedro Pascal, Vanessa Kirby, Ebon Moss-Bachrach a Joseph Quinn.

The Legend of Ochi (12A)

The Legend of Ochi

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Sunday 24 Aug 202519:30
Tuesday 26 Aug 202514:00
Wednesday 27 Aug 202513:30 (Parent & Baby/Toddler. Subtitled)19:30 (Subtitled)

Director:  Isaiah Saxon/2024/USA,Finland,UK/95mins


In a remote village on the island of Carpathia, a young girl named Yuri has been raised to fear the elusive forest creatures known as Ochi. But when she discovers a wounded baby Ochi has been left behind by its pack, she embarks on a quest to reunite it with its family.


An adventure, fantasy film starring Helena Zengel, Finn Wolfhard and Emily Watson.


*  *  *  *  *


Cyfarwyddwr:  Isaiah Saxon/2024/USA,Finland,UK/95munud


Mewn pentref anghysbell ar ynys Carpathia, mae merch ifanc o'r enw Yuri wedi cael ei magu i ofni'r creaduriaid coedwig anodd eu deall o'r enw Ochi. Ond pan mae hi'n darganfod bod Ochi bach clwyfedig wedi'i adael ar ôl gan ei haid, mae hi'n cychwyn ar daith i'w aduno â'i deulu.


Ffilm antur, ffantasi yn serennu Helena Zengel, Finn Wolfhard ac Emily Watson.

The Last Journey (PG)

The Last Journey

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Monday 25 Aug 202511:00 (Subtitles)

Director:  Filip Hammar,Fredrik Wikingsson/2025/Sweden/91mins/Subtitles


In this hilarious and life-affirming documentary, renowned Swedish TV duo, Filip and Fredrik, take Filip’s 80-year-old father Lars on a road trip to southern France to rekindle the spark in his life after he becomes depressed and apathetic in his retirement.


A touching celebration of a life well lived, this charming film is an absolute must-see.


*  *  *  *  *


Cyfarwyddwr:  Filip Hammar,Fredrik Wikingsson/2025/Sweden/91munud/Isdeitlau


Yn y rhaglen ddogfen ddoniol a chadarnhaol hon, mae'r ddeuawd teledu enwog o Sweden, Filip a Fredrik, yn mynd â thad Filip, Lars sy'n 80 oed, ar daith ffordd i dde Ffrainc i ailgynnau'r wreichionen yn ei fywyd ar ôl iddo fynd yn isel ei ysbryd ac yn ddifater yn ei ymddeoliad.


Yn ddathliad cyffwrdd o fywyd da, mae'r ffilm swynol hon yn rhywbeth y mae'n rhaid ei gweld.

The Bad Guys 2 (PG)

The Bad Guys 2

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Friday 29 Aug 202514:00
Saturday 30 Aug 202511:00 (Kids Club)
Sunday 31 Aug 202516:00

Director:  Pierre Perifel,JP Sans/2024/USA/104mins


Despite struggling to find trust and acceptance in their new lives, the now-reformed Bad Guys are trying very, very hard to be good. However, they soon find themselves hijacked into a high-stakes, globe-trotting heist, masterminded by a new team of criminals they never saw coming: The Bad Girls.


Starring Sam Rockwell, Marc Maron and Craig Robinson.


*  *  *  *  *


Cyfarwyddwr:  Pierre Perifel,JP Sans/2024/USA/104munud


Cafodd y Bad Guys drafferth dod o hyd i ymddiriedaeth a derbyniad yn eu bywydau newydd, ers iddynt ailffurfio. Maent yn ceisio'n galed iawn i fod yn dda. Fodd bynnag, yn fuan maen nhw'n cael eu hunain wedi'u herwgipio a’u cynnwys mewn cynlluniau lladrata byd-eang llawn perygl. Tîm newydd o droseddwyr na welsant erioed o’r blaen sy’n gyfrifol: The Bad Girls.


Yn serennu Sam Rockwell, Marc Maron a Craig Robinson.

The Naked Gun (15)

The Naked Gun

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Friday 29 Aug 202519:30
Sunday 31 Aug 202519:30
Monday 1 Sep 202511:00
Wednesday 3 Sep 202519:30 (Subtitled)

Director:  Akiva Schaffer/2025/USA/85mins


Only one man has a particular set of skills…to lead Police Squad and save the world! Liam Neeson stars as Lt. Frank Drebin Jr., an inept detective who - following in the footsteps of his bumbling father - must solve a murder case to prevent the police department from shutting down.


*  *  *  *  *


Cyfarwyddwr:  Akiva Schaffer/2025/USA/85munud


Dim ond un dyn sydd â’r set benodol o sgiliau…i arwain Sgwad yr Heddlu ac achub y byd! Mae Liam Neeson yn serennu fel yr Is-gapten Frank Drebin Jr., ditectif analluog sydd - gan ddilyn ôl troed ei dad di-glem - yn gorfod datrys achos llofruddiaeth i atal yr adran heddlu rhag cau.


NTL Inter Alia (15)

NTL Inter Alia

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Thursday 4 Sep 202519:00 (National Theatre Live Broadcast)

Inter Alia - A new play by Suzie Miller


Broadcast live from the National Theatre


Oscar-nominated Rosamund Pike (Gone Girl, Saltburn) is Jessica in the much-anticipated next play from the team behind Prima Facie.


Jessica Parks is a smart Crown Court Judge at the top of her career. Behind the robe, she is a karaoke fiend, a loving wife and a supportive parent. When an event threatens to throw her life completely off balance, can she hold her family upright?


Writer Suzie Miller and director Justin Martin reunite following their global phenomenon Prima Facie, with this searing examination of modern motherhood and masculinity. Also starring Jamie Glover (Waterloo Road, Agatha Raisin) and Jasper Talbot (Broadchurch, Ruthless).


*  *  *  *  *


Inter Alia - Drama newydd gan Suzie Miller


Darlledwyd yn fyw o'r Theatr Genedlaethol


Rosamund Pike (Gone Girl, Saltburn), a enwebwyd am Oscar, yw Jessica yn y ddrama nesaf a ddisgwylir yn eiddgar gan y tîm y tu ôl i Prima Facie.


Mae Jessica Parks yn Farnwr Llys y Goron clyfar ar frig ei gyrfa. Y tu ôl i'r wisg, mae hi'n hoff o karaoke, yn wraig gariadus ac yn rhiant cefnogol. Pan fydd digwyddiad yn bygwth taflu ei bywyd allan o gydbwysedd yn llwyr, a all hi ddal ei theulu at ei gilydd?


Mae'r awdur Suzie Miller a'r cyfarwyddwr Justin Martin yn ailuno yn dilyn eu ffenomen fyd-eang Prima Facie, gyda'r archwiliad llosg hwn o famolaeth a gwrywdod modern.  Hefyd yn serennu Jamie Glover (Waterloo Road, Agatha Raisin) and Jasper Talbot (Broadchurch, Ruthless).


BBFC Rating (15) to be confirmed.

Materialists (15)

Materialists

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Friday 5 Sep 202519:30
Saturday 6 Sep 202519:30
Sunday 7 Sep 202519:30
Monday 8 Sep 202511:00

Director: Celine Song/2025/USA,Finland/117mins


From the director of ‘Past Lives’ comes this swoon-worthy modern love story starring Dakota Johnson, Pedro Pascal, and Chris Evans. Lucy, an ambitious and successful New York City matchmaker, has her personal and professional life complicated when she finds herself torn between her perfect match and her imperfect ex.


Starring Dakota Johnson, Chris Evans and  Pedro Pascal.


*  *  *  *  *


Cyfarwyddwr:  Celine Song/2025/USA,Finland/117munud


Gan gyfarwyddwr ‘Past Lives’ daw stori garu fodern fydd yn mynd at eich calon gyda Dakota Johnson, Pedro Pascal, a Chris Evans yn serennu. Mae bywyd personol a phroffesiynol Lucy, trefnydd priodasol uchelgeisiol a llwyddiannus yn ninas Efrog Newydd, yn cael ei chymhlethu pan mae hi’n cael ei hun wedi’i rhwygo rhwng ei phartner perffaith a’i chyn-gariad amherffaith.


Yn serennu Dakota Johnson, Chris Evans a Pedro Pascal.

FFS TINÄ€ (PG)

FFS TINÄ€

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Thursday 11 Sep 202519:30 (Fishguard Film Society.Subtitles)

Director: Miki Magasiva/2024/New Zealand/124mins/Subtitled


A woman grieving her daughter's death in the Christchurch quakes becomes a substitute teacher at an elite school where she encounters students lacking guidance and care: a big-hearted, joyous and uplifting drama, and a huge box-office hit in New Zealand and internationally.


Starring Anapela Polataivao, Antonia Robinson and Beulah Koale.


*  *  *  *  *


Cyfarwyddwr: Miki Magasiva/2024/Sealand Newydd/124munud/Isdeitlau


Mae menyw sy'n galaru am farwolaeth ei merch yn y cwymp yn Christchurch yn dod yn athrawes ddirprwy yn ysgol elitaidd lle mae'n syrthio ar fyfyrwyr yn colli arweinyddiaeth a gofal: dramad fawr, llawen a chynhelir, a chwaraewr mawr yn y sinema yn Nydd Newydd a rhyngwladol.


Yn serennu Anapela Polataivao, Antonia Robinson a Beulah Koale.

OLE - Adwaith - Live at TG

OLE - Adwaith - Live at TG

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Saturday 13 Sep 202519:30

Ar Ymyl y Tir 2025 On Land's Edge - Pre-festival Gig


Adwaith - Live at TG, supported by Lafant


Still buzzing from their Solas Tour, Adwaith take to the stage at Theatr Gwaun on September 13th for our Pre-festival headline gig, supported by Pembrokeshire's own Lafant.


Hailing from the Welsh town of Carmarthen, Adwaith grew up surrounded by a rich tradition of Welsh-language indie-rock, and a tight-knit scene of experimental, artistically-minded bands that frequented their beloved local venue The Parrot. Inspired by the lineage of boldly experimental bands that emerged out of Wales in the ‘80s - Datblygu, Traddodiad Ofnus and Fflaps to name three groups spearheading new wave Welsh rock music at the time – Adwaith knew that they wanted to be similarly uncompromising in their own vision. When Hollie Singer, Gwenllian Anthony and Heledd Owen first went about founding their own band in 2015, they were also equally influenced by newer acts they’d seen playing at local indie venues and Welsh-Language music festivals, where they bore witness to another new wave of musicians wielding Welsh as an exciting musical instrument.


Growing up on the geographical and cultural edge of things has given Lafant's sound a unique urgency. The three-piece from the shores of the Irish Sea in north Pembrokeshire take inspiration from the 60s' British Invasion bands and American Surf Rock but also from the swagger of Britpop and the ankst of grunge. Their tight interplay underpins stories of love and lust, of youthful follies, jealousy and joy, sung with a sincerity gifted to those raised in the middle of nowhere.


Yn llawn bwrlwm ers dychwelyd o’u ‘Taith Solas’, mae Adwaith yn camu i'r llwyfan yn Theatr Gwaun ar Fedi 13eg ar gyfer ein prif gig ‘cyn Gŵyl’, gyda chefnogaeth band ifanc o Sir Benfro - Lafant.


Sefydlwyd Adwaith yn nhref Caerfyrddin.  Amgylchynwyd yr aelodau gan draddodiad cyfoethog indie-roc Cymraeg, a sîn glos o fandiau a fynychai eu hoff leoliad cerddorol, Y Parrot. Wedi’u hysbrydoli gan linach y bandiau arbrofol a ddeilliodd o Gymru yn yr 80au – Datblygu, Traddodiad Ofnus a Fflaps i enwi tri grŵp a oedd yn arwain cerddoriaeth roc Cymraeg ton newydd ar y pryd – dewisodd Adwaith eu hefelychu wrth fod yr un mor ddigyfaddawd yn eu gweledigaeth eu hunain. Pan aeth Hollie Singer, Gwenllian Anthony a Heledd Owen ati i sefydlu eu band eu hunain yn 2015, dylanwadwyd arnynt gan berfformwyr mwy newydd y gwelsant yn chwarae mewn lleoliadau annibynnol a gwyliau cerdd Cymreig, lle buont yn dyst i don newydd arall o gerddorion yn defnyddio’r Gymraeg fel offeryn cerdd cyffrous.


Mae tyfu fyny ar ymyl daearyddol pethau wedi rhoi brys unigryw i sain Lafant. Mae'r triawd o lannau Môr Iwerddon yng ngogledd Sir Benfro yn cymryd ysbydoliaeth o fandiau British Invasion y 60au a Surf Rock Americanaidd, ond hefyd o swagger Britpop ac ing Grunge. Mae eu rhyngchwarae tynn yn sail i straeon am gariad a chwant, am ffolineb ieuenctid, cenfigen a llawenydd, wedi'u canu â didwylledd sy'n nodweddiadol o'r sawl a fagwyd ym mhen draw nunlle.

FFS On Falling (15)

FFS On Falling

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Thursday 25 Sep 202519:30 (Fishguard Film Society)

Director: Laura Carreira/2024/UK/104mins


Aurora, a Portuguese worker in a Scottish warehouse, navigates loneliness and alienation, in a gig economy in an impressive debut feature that is a heartfelt Loach-esque protest against

exploitation, and a riveting portrait of our age.


Starring Joana Santos, Inês Vaz, Piotr Sikora, Jake McGarry and Neil Leiper.


*  *  *  *  *


Cyfarwyddwr: Laura Carreira/2024/DU/104munud


Mae Aurora, gweithiwr Portiwgaliaidd mewn warws yn yr Alban, yn navigo yn erbyn unigedd ac ymlediad, mewn economi gig mewn cychwyn llethol sy'n gorymdeithio â chalon yn erbyn menter, ac yn bortread cyffrous o'n hoes.


Yn serennu Joana Santos, Inês Vaz, Piotr Sikora, Jake McGarry and Neil Leiper.

Sponsor a Seat Donations

Sponsor a Seat Donations

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Sponsor a Seat at TG09:25

Sponsor a Seat at Theatr Gwaun


Lots of people love Row G, some prefer the view from the back, and the aisle seats are always popular. Wherever it is you like to sit, you can now make it a little more personal. We have launched our ‘Sponsor a Seat Fundraising Campaign’ and we are inviting donations of £ 200 plus for Row G and the aisle seats and £ 100 plus for all of the others.


Your much needed support will be recognised with a plaque, mounted on the back of the seat in front of your chosen seat, so that it is visible to you as you sit. All of the costs for purchasing and mounting the plaques will be covered by Theatr Gwaun and we will arrange for it to be engraved with your name, or a name of your choice.


The plaques will remain in place for five years and ahead of that anniversary date we will contact you to see if you might consider repeating your generous donation and continuing to enjoy seeing your plaque when you visit Theatr Gwaun.


Noddwch Sedd yn Theatr Gwaun


Mae llawer o bobl yn caru Rhes G, mae'n well gan rai yr olygfa o'r cefn, ac mae'r seddi ger y grisiau canol bob amser yn boblogaidd. Ble bynnag chi’n hoffi eistedd, gallwch nawr ei wneud ychydig yn fwy personol. Rydym wedi lansio ein ‘Hymgyrch Codi Arian Noddi Sedd’ ac rydym yn gwahodd rhoddion o £200 ac i fyny ar gyfer Rhes G a’r seddi grisiau canol a £100 ac i fyny ar gyfer pob un o’r lleill.


Bydd eich cefnogaeth hael yn cael ei gydnabod gyda phlac, wedi'i osod ar gefn y sedd o flaen eich sedd ddewisol, fel ei fod yn weladwy i chi wrth i chi eistedd. Bydd yr holl gostau ar gyfer prynu a gosod y placiau yn cael eu talu gan Theatr Gwaun a byddwn yn trefnu gosod eich enw chi, neu enw o’ch dewis.


Bydd y placiau yn aros yn eu lle am bum mlynedd a chyn y dyddiad pen-blwydd hwnnw byddwn yn cysylltu â chi i weld a hoffech ailadrodd eich rhodd a pharhau i fwynhau gweld eich plac pan fyddwch yn ymweld â Theatr Gwaun.