Menu
Purchase
TodayJanuary, 2026February, 2026
MTWTFSS
2930311234
567891011
12131415161718
19202122232425
2627282930311
2345678
MTWTFSS
2627282930311
2345678
9101112131415
16171819202122
2324252627281
2345678
Next Month >

Ein Hanes-The Sea Empress Disaster

Ein Hanes-The Sea Empress Disaster

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Wednesday 11 Feb 202618:00 (Live Talk)

30 years ago, West Wales became the centre of world news when the tanker, Sea Empress, struck rocks at the entrance of Milford Haven. While bad weather hampered the rescue, 72,000 tonnes of crude oil escaped.


This is the story of the disaster, and subsequent massive effort to clean Pembrokeshire’s beaches. There was also a Goodwick connection!


Speaker: Simon Moffett


*  *  *


30 mlynedd yn ôl, daeth Gorllewin Cymru yn ganolbwynt newyddion y byd pan darodd y tancer, y Sea Empress, greigiau wrth fynedfa Aberdaugleddau. Er bod tywydd garw wedi rhwystro’r ymdrech i lanhau, dihangodd 72 mil tunnell o olew crai.


Dyma stori’r drychineb, a’r ymdrech enfawr ddilynol i lanhau traethau Sir Benfro. Roedd cysylltiad ag Wdig hefyd!



Siaradwr: Simon Moffett

In The Nguyen Kitchen-FFS (12A)

In The Nguyen Kitchen-FFS

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Thursday 12 Feb 202619:30 (Subtitled)

Director: Stéphane Ly-Cuong/2024/France/98mins/Subtitles


An aspiring actress pursues her musical theatre dreams despite her mother's disapproval. Through cooking traditional meals together, mother and daughter find mutual understanding.


This heartwarming musical comedy portrays not only the struggles of Vietnamese-French artists, but also a side of Paris seldom seen on film.


*  *  *


Cyfarwyddwr: Stéphane Ly-Cuong/2024/France/98munud/Isdeitlau


Mae actores uchelgeisiol yn dilyn ei breuddwydion theatr gerddorol er gwaethaf gwrthwynebiad ei mam. Drwy goginio prydau traddodiadol gyda'i gilydd, mae mam a merch yn dod o hyd i ddealltwriaeth gyffredin.


Mae'r comedi gerddorol gynnes hon yn darlunio nid yn unig y llafurion a wynebir gan artistiaid Ffrengiaid-Fietnam, ond hefyd ochr o Baris sydd yn anaml yn cael ei dangos ar sgrin.

It Was Just an Accident-FFS (12A)

It Was Just an Accident-FFS

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Thursday 19 Feb 202619:30 (Subtitled)

Director: Jafar Panahi/2025/Iran,France,Luxembourg,USA/103mins/Subtitles


A minor traffic accident brings together former prisoner, Vahid, and the man he is convinced is his torturer, Eghbal. But Eghbal strongly denies this, leaving Vahid grappling with a dilemma – whether to exact revenge or show mercy.  


An extraordinary work, richly deserving of its 2025 Palme d’Or.


*  *  *


Cyfawrwyddwr: Jafar Panahi/2025/Iran,France,Luxembourg,USA/103munud/Isdeitlau


Mae damwain draffig fach yn dod â’r carcharor blaenorol, Vahid, ynghyd â’r dyn y mae’n siŵr yn ei erlidwr, Eghbal. Ond mae Eghbal yn gwrthod hyn yn gryf, gan adael Vahid yn delio â dyled – ai dial neu ddangos trugaredd a ddylai.


Gwaith eithriadol, yn ganmoladwy’n helaeth am ei Palme d’Or 2025.

Live at Martha's-Alawon Gwaun

Live at Martha's-Alawon Gwaun

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Thursday 12 Feb 202618:00

LIVE AT MARTHA'S


Alawon Gwaun are an ensemble of local musicians who have an abiding love and interest in Welsh Folk Music.


The group brings to the fore fiddle, whistle, flute, ukulele, mandolins, cittern, guitar, concertina and bass to present a lively and varied repertoire of Welsh and Celtic tunes.


Having performed at a variety of prestigious local venues, we hope to enrich your musical enjoyment with our performance and interpretation of Welsh and Celtic Folk Music.


This event is a Theatr Gwaun fundraiser with a suggested donation of £10.


*  *  *


Mae Alawon Gwaun yn grŵp o gerddorion lleol sy’n caru ac ymddiddori’n barhaol mewn Cerddoriaeth Werin Cymru.


Mae'r grŵp yn cynnwys ffidil, chwiban, ffliwt, iwcalili, mandolinau, y sitern, gitâr, concertina a bas. Byddwn yn cyflwyno repertoire bywiog ac amrywiol o alawon Cymreig a Cheltaidd.


Wedi perfformio mewn amrywiaeth o leoliadau lleol blaenllaw, rydym yn gobeithio cyfoethogi eich mwynhad cerddorol gyda'n dehongliad o Gerddoriaeth Werin Gymreig a Cheltaidd.


Mae’r digwyddiad hwn yn ariannu Theatr Gwaun gyda rhodd awgrymir o £10.

NTL The Audience (12A)

NTL The Audience

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Thursday 26 Feb 202619:00 (NT Live)

The Audience


By Peter Morgan


Directed by Stephen Daldry


Returning to cinemas for the first time in over a decade, Helen Mirren plays Queen Elizabeth II in the Olivier and Tony Award® -winning hit production, directed by Stephen Daldry.


For 60 years, Queen Elizabeth II met with each of her 12 prime ministers in a private weekly meeting. This meeting is known as The Audience. From Winston Churchill to Margaret Thatcher and David Cameron, the Queen advised her prime ministers on matters both public and personal. Through these private audiences, we see glimpses of the woman behind the crown and witness the moments that shaped a monarch.


Peter Morgan’s Netflix phenomenon The Crown was based on this hit play that was captured live from London’s West End in 2013 and went on to become one of the most-watched NT Live productions.


*  *  *


The Audience


Gan Peter Morgan


Cyfarwyddwr: Stephen Daldry


Gan ddychwelyd i sinemâu am y tro cyntaf ers dros ddegawd, mae Helen Mirren yn chwarae rhan y Frenhines Elizabeth II mewn cynhyrchiad llwyddiannus a enillodd Wobrau Olivier a Tony®, wedi'i gyfarwyddo gan Stephen Daldry.


Am 60 mlynedd, cyfarfu'r Frenhines Elizabeth II â phob un o'i 12 prif weinidog mewn cyfarfod wythnosol preifat. Gelwir y cyfarfod hwn yn y ‘The Audience’. O Winston Churchill i Margaret Thatcher a David Cameron, cynghorodd y Frenhines ei phrif weinidogion ar faterion cyhoeddus a phersonol. Trwy'r cyfarfodydd preifat hyn, gwelwn gipolwg ar y fenyw y tu ôl i'r goron ac yn dyst i'r eiliadau a greodd frenhines.


Roedd ffenomen Netflix Peter Morgan, The Crown, yn seiliedig ar y ddrama boblogaidd hon a ddaeth yn fyw o’r West End yn Llundain yn 2013 ac a aeth ymlaen i fod yn un o gynyrchiadau mwyaf poblogaidd NT Live.

RB&O Woolf Works

RB&O Woolf Works

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Monday 9 Feb 202619:15

Woolf Works


The Royal Ballet


Virginia Woolf defied literary conventions to depict rich inner worlds – her heightened, startling and poignant reality.


Resident Choreographer Wayne McGregor leads a luminous artistic team to evoke Woolf’s signature stream of consciousness writing style in this immense work that rejects traditional narrative structures. Woolf Works is a collage of themes from Mrs Dalloway, Orlando, The Waves and Woolf’s other writings.


Created in 2015 for The Royal Ballet, this Olivier-award winning ballet triptych captures the heart of Woolf’s uniquely artistic spirit.


*  *  *  *  *


Heriodd Virginia Woolf gonfensiynau llenyddol i ddarlunio bydoedd mewnol cyfoethog - rhai dwys, syfrdanol a thyner.


Mae'r Coreograffydd Preswyl Wayne McGregor yn arwain tîm artistig disglair i ar gyfer y gwaith aruthrol hwn sy'n gwrthod strwythurau naratif traddodiadol. Mae Woolf Works yn gasgliad o themâu o Mrs Dalloway, Orlando, The Waves a gweithiau eraill Woolf.


Wedi'i greu yn 2015 ar gyfer y Royal Ballet, mae'r triptych bale hwn, sydd wedi ennill gwobr Olivier, yn dal calon ysbryd artistig unigryw Woolf.


The Voice of Hind Rajab (15)

The Voice of Hind Rajab

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Tuesday 10 Feb 202619:30

Director: Kaouther Ben Hania/2025/Tunisia,France/89min/Subtitles


As part of WOW Around Wales, the year-round touring programme of WOW Film Festival that brings bold, socially engaged cinema to communities across Wales, we are proud to present The Voice of Hind Rajab, a powerful and urgent cinematic experience that transcends traditional documentary form.


Directed by Academy Award–nominated filmmaker Kaouther Ben Hania, The Voice of Hind Rajab bears witness to the killing of six-year-old Palestinian girl Hind Rajab, who was trapped in a car under Israeli military fire in Gaza on January 29, 2024. Through the use of real emergency call recordings and carefully constructed re-enactments based on first-hand testimony and transcripts, the film reconstructs the hours during which Hind remained alive, alone, and pleading for help as Red Crescent dispatchers desperately tried to reach her.


This is a film that demands not only empathy, but attention; a testament to Palestinian lives, to resistance through truth-telling, and to cinema’s power to confront injustice and amplify silenced voices.


Languages: English, Arabic with English Subtitles


*  *  *


Cyfarwyddwr: Kaouther Ben Hania/2025/Tunisia,France/89munud/Isdeitlau


Fel rhan o WOW Rownd Cymru, rhaglen deithiol Gŵyl Ffilm WOW gydol y flwyddyn sy'n dod â sinema feiddgar, gymdeithasol i gymunedau ledled Cymru, rydym yn falch o gyflwyno The Voice of Hind Rajab, profiad sinematig pwerus sy'n mynd y tu hwnt i ffurf ffilm ddogfen draddodiadol.


Wedi'i gyfarwyddo gan wneuthurwr ffilmiau a enwebwyd am Wobr yr Academi, Kaouther Ben Hania, mae The Voice of Hind Rajab yn tystio i ladd merch chwech oed o Balesteina, Hind Rajab, a oedd yn teithio mewn car a dargedwyd gan filwyr Israel yn Gaza ar Ionawr 29, 2024. Clywir recordiadau galwadau brys go iawn ac eraill wedi eu hail-greu'n ofalus yn seiliedig ar dystiolaeth a thrawsgrifiadau uniongyrchol. Mae'r ffilm yn ail-greu'r oriau pan yr oedd Hind yn fyw, ar ei phen ei hun, ac yn erfyn am gymorth wrth i weithwyr y Cilgant Coch geisio'n daer ei chyrraedd.


Mae hon yn ffilm sy'n mynnu nid yn unig empathi, ond sylw; tystia i fywydau Palesteinaidd, i bwysigrwydd rhannu’r gwir, ac i bŵer sinema i wynebu anghyfiawnder ac i gynnig platform i leisiau tawel.


Waldo

Waldo

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Saturday 7 Feb 202619:30 (Welsh language play)

Mewn Cymeriad yn cyflwyno WALDO


Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn mynd i fro’r Garreg Las yn 2026, mae’n addas bod cwmni Mewn Cymeriad yn talu teyrnged i waith a bywyd un o blant amlycaf yr ardal honno, sef y bardd a’r ymgyrchydd heddwch Waldo Williams.


Yn y cyflwyniad hwn, cawn gip ar y cwlwm tynn rhwng profiadau ei fywyd, delfrydau ei athroniaeth a’i gerddi ac ystyried mor berthnasol yw ei eiriau i’n dyddiau ni.


Cefnogir y perfformiad hwn gan Gynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru.


*  *  *


With the National Eisteddfod visiting Pembrokeshire in 2026, it is appropriate for us to honour one of its most famous sons, the poet and peace campaigner, Waldo Williams.


In this Welsh language presentation, we will look at the close connection between his life experiences, his philosophical ideals and poems, and consider the relevance of his words in today’s world.


This performance is supported by the Arts Council of Wales’ Night Out Scheme.