Menu
Purchase

Alice's Adventures in Wonderland (12A)

Alice's Adventures in Wonderland

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Tuesday 23 Mar 202719:15 (Royal Ballet)

ALICE’S ADVENTURES IN WONDERLAND

The Royal Ballet


At a garden party on a sunny afternoon, Alice is surprised to see her parents’ friend Lewis Carroll transform into a white rabbit. When she follows him down a rabbit hole, events become curiouser and curiouser…As Alice journeys through Wonderland, she encounters countless strange creatures. She’s swept off her feet by the charming Knave of Hearts, who’s on the run for stealing the tarts. Confusion piles upon confusion. Then Alice wakes with a start. Was it all a daydream?


Christopher Wheeldon’s Alice’s Adventures in Wonderland burst onto the stage in 2011 in an explosion of colour, stage magic and inventive, sophisticated choreography. Joby Talbot’s score combines contemporary soundworlds with sweeping melodies that gesture to ballet scores of the 19th century. Bob Crowley’s wildly imaginative, eye-popping designs draw on everything from puppetry to projections to make Wonderland wonderfully real.


The result shows The Royal Ballet at its best, bringing together world-class dance with enchanting family entertainment and ingenious music and design.


Approximate runtime: 2 hours and 50 minutes with two intervals.


Classification to be confirmed.

*  *  *


Mewn parti gardd ar brynhawn heulog, mae Alice yn synnu gweld ffrind ei rhieni, Lewis Carroll, yn trawsnewid yn gwningen wen. Wrth iddi ei ddilyn i lawr twll cwningen, mae digwyddiadau'n mynd yn fwyfwy rhyfedd ac yn fwy chwilfrydig….  Wrth i Alice deithio trwy Wonderland, mae hi'n dod ar draws creaduriaid rhyfedd dirifedi. Mae hi'n cael ei sgubo oddi ar ei thraed gan y Knave of Hearts llawn swyn, sydd ar ffo am ddwyn y tartiau. Mae dryswch yn pentyrru ar ôl dryswch. Yna mae Alice yn deffro’n sydyn. Ai breuddwyd oedd y cyfan?

 

Ffrwydrodd Alice’s Adventures in Wonderland gan Christopher Wheeldon ar y llwyfan yn 2011 mewn yn chwyldro o liw, hud llwyfan a choreograffi dyfeisgar, soffistigedig. Mae sgôr Joby Talbot yn cyfuno bydoedd sain cyfoes â melodïau ysgubol sy'n atgof o sgoriau bale'r 19eg ganrif. Mae dyluniadau hynod ddychmygus, syfrdanol Bob Crowley yn defnyddio pypedwaith a thafluniadau i wneud Wonderland yn rhyfeddol o real.


Mae'r canlyniad yn dangos y Royal Ballet ar ei orau, gan ddod â dawns o'r radd flaenaf ynghyd ag adloniant teuluol hudolus a cherddoriaeth a dylunio dyfeisgar.


Amser rhedeg bras: 2 awr a 50 munud gyda ddau egwyl.

Sandro Ford Lager Than Life (14)

Sandro Ford Lager Than Life

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Friday 5 Mar 202719:30 (Live Comedy Show)

Stand-up comedian Sandro Ford is heading out on his first ever UK and Ireland tour, and it’s a big one. Titled Lager Than Life, this debut run brings Sandro’s unmistakable voice, sharp observations, and pub-bred storytelling to stages across the country.


Co-host of the smash hit Problematic Pub Podcast and as seen on Have A Word, Dead Men Talking, and Hot Water Green Room, Sandro has quickly made a name for himself as a comic who tells it how it is. His comedy is rooted in real life — growing up, getting older, bad decisions, worse hangovers, and the sort of characters you only ever meet in or around a pub. Honest, self-aware, and unapologetically funny, his material feels lived-in and instantly relatable.


Lager Than Life is a celebration of nights that spiral, mates who never change, and the quiet chaos of everyday British life. Sandro’s relaxed delivery and natural crowd connection allow his punchlines to land effortlessly, turning familiar situations into moments of pure comedy. One minute he’s dissecting modern masculinity, the next he’s deep into a story that probably should’ve stayed off record — but you’re glad it didn’t.


This tour marks the next step for a comic firmly on the rise, bringing his most personal and hard-hitting material yet to live audiences. Whether you’ve followed his podcast appearances or are discovering him for the first time, expect big laughs, brutal honesty, and stories that hit close to home.


So get a drink in, find your seat, and brace yourself. With Sandro Ford, it’s always Down the Hatch. Lovelyyy!


*  *  *


Mae'r digrifwr stand-yp Sandro Ford ar ei daith gyntaf erioed yn y DU ac Iwerddon, ac mae'n un fawr. Dan y teitl Lager Than Life, mae'r rhediad cyntaf hwn yn dod â llais diamheuol Sandro, ei arsylwadau miniog, a'i hiwmor tŷ tafarn i lwyfannau ledled y wlad.


Mae’n gyd-gyflwynydd y podlediad poblogaidd Problematic Pub Podcast ac ymddangosodd ar Have A Word, Dead Men Talking, a Hot Water Green Room. Mae Sandro wedi gwneud enw iddo'i hun yn gyflym fel digrifwr sy'n dweud pethau fel y maent. Mae ei gomedi wedi'i wreiddio mewn bywyd go iawn - prifiant, mynd yn hŷn, penderfyniadau gwael, pen mawr gwaeth, a'r math o gymeriadau rydych chi ond yn eu cyfarfod mewn neu o gwmpas tafarn. Yn onest, yn ymwybodol ohono'i hun, ac yn ddoniol heb ymddiheuriad, mae ei ddeunydd yn teimlo'n fyw ac yn berthnasol ar unwaith.


Mae Lager Than Life yn ddathliad o nosweithiau gwylltion, ffrindiau nad ydynt byth yn newid, ac anhrefn tawel bywyd bob dydd ym Mhrydain. Mae steil cyflwyno hamddenol Sandro a'i gysylltiad naturiol â'r dorf yn caniatáu i'w hiwmor lanio'n ddiymdrech, gan droi sefyllfaoedd cyfarwydd yn eiliadau o gomedi pur. Un funud mae'n dadansoddi gwrywdod modern, y funud nesaf mae'n mynd yn ddwfn i stori a ddylai fod wedi aros ‘oddi ar y record’ - ond mae’n dda ei chlywed.


Mae'r daith hon yn nodi'r cam nesaf i gomedïwr sydd ar gynnydd, gan ddod â'i ddeunydd mwyaf personol a chraff hyd yma i gynulleidfaoedd byw. P'un a ydych chi wedi dilyn ei ymddangosiadau podlediad neu'n ei ddarganfod am y tro cyntaf, disgwyliwch chwerthin mawr, gonestrwydd creulon, a straeon sy'n taro'n agos at adref.


Felly ewch i gael diod, dewch o hyd i'ch sedd, a pharatowch eich hun. Gyda Sandro Ford, mae hi bob amser yn Down the Hatch. Hyfryd!

Sponsor a Seat Donations

Sponsor a Seat Donations

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Sponsor a Seat at TG09:25

Sponsor a Seat at Theatr Gwaun


Lots of people love Row G, some prefer the view from the back, and the aisle seats are always popular. Wherever it is you like to sit, you can now make it a little more personal. We have launched our ‘Sponsor a Seat Fundraising Campaign’ and we are inviting donations of £ 200 plus for Row G and the aisle seats and £ 100 plus for all of the others.


Your much needed support will be recognised with a plaque, mounted on the back of the seat in front of your chosen seat, so that it is visible to you as you sit. All of the costs for purchasing and mounting the plaques will be covered by Theatr Gwaun and we will arrange for it to be engraved with your name, or a name of your choice.


The plaques will remain in place for five years and ahead of that anniversary date we will contact you to see if you might consider repeating your generous donation and continuing to enjoy seeing your plaque when you visit Theatr Gwaun.


Noddwch Sedd yn Theatr Gwaun


Mae llawer o bobl yn caru Rhes G, mae'n well gan rai yr olygfa o'r cefn, ac mae'r seddi ger y grisiau canol bob amser yn boblogaidd. Ble bynnag chi’n hoffi eistedd, gallwch nawr ei wneud ychydig yn fwy personol. Rydym wedi lansio ein ‘Hymgyrch Codi Arian Noddi Sedd’ ac rydym yn gwahodd rhoddion o £200 ac i fyny ar gyfer Rhes G a’r seddi grisiau canol a £100 ac i fyny ar gyfer pob un o’r lleill.


Bydd eich cefnogaeth hael yn cael ei gydnabod gyda phlac, wedi'i osod ar gefn y sedd o flaen eich sedd ddewisol, fel ei fod yn weladwy i chi wrth i chi eistedd. Bydd yr holl gostau ar gyfer prynu a gosod y placiau yn cael eu talu gan Theatr Gwaun a byddwn yn trefnu gosod eich enw chi, neu enw o’ch dewis.


Bydd y placiau yn aros yn eu lle am bum mlynedd a chyn y dyddiad pen-blwydd hwnnw byddwn yn cysylltu â chi i weld a hoffech ailadrodd eich rhodd a pharhau i fwynhau gweld eich plac pan fyddwch yn ymweld â Theatr Gwaun.