Today | October, 2025 | November, 2025 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
< Prev Month |
|
| Next Month > |
Director: Kogonada/2025/Ireland,USA/109mins
Single strangers, Sarah (Margot Robbie) and David (Colin Farrell), meet at a mutual friend’s wedding and, through a surprising twist of fate, get to relive important moments from their respective pasts, illuminating how they got to where they are in the present — and possibly getting a chance to alter their futures.
Starring Margot Robbie, Colin Farrell and Kevin Kline.
* * *
Cyfarwyddwr: Kogonada/2025/Ireland,USA/109munud
Mae Sarah (Margot Robbie) a David (Colin Farrell), y ddau’n sengl, yn cwrdd am y tro cyntaf ym mhriodas ffrind cyffredin. Trwy dro annisgwyl, maent yn cael ail-fyw eiliadau pwysig o'u gorffennol. Mae’r profiad yn goleuo sut y cyrhaeddon nhw lle maen nhw yn y presennol - ac o bosibl yn cael cyfle i newid eu dyfodol.
Yn serennu Margot Robbie, Colin Farrell a Kevin Kline.
|
Director: Petra Volpe/2025/Switzerland,Germany/91mins/Subtitles
The film follows Floria, a dedicated nurse, on her demanding shift in a Swiss hospital where staff shortages impose an intolerable workload on the staff.
Floria’s shift quickly becomes an urgent race against time, culminating in a gripping climax. A timely and compelling statement on the crises facing health services across Europe.
* * * * *
Cyfarwyddwr: Petra Volpe/2025/Switzerland,Germany/91munud/Isdeitlau
Mae'r ffilm yn dilyn Floria, nyrs ymroddedig, ar ei shifft heriol mewn ysbyty yn y Swistir lle mae prinder staff yn gosod llwyth gwaith annioddefol ar y staff.
Mae shifft Floria yn gyflym yn dod yn ras frys yn erbyn amser, gan gyrraedd uchafbwynt cyffrous. Datganiad amserol a chymhellol ar yr argyfyngau sy'n wynebu gwasanaethau iechyd ledled Ewrop.
|
Director: Wim Wenders/2022/Germany,France/129mins/Subtitled
In Wim Wenders' classic, an angel listens to the thoughts of the humans who play out their lives on the streets of West Berlin, and longs for the tangible joys of physical existence when he falls in love with a mortal.
Starring Peter Falk, Curt Bois, Otto Sander, Solveig Dommartin and Bruno Ganz.
* * * * *
Cyfarwyddwr: Wim Wenders/2022/Yr Almaen, Ffrainc/129munud/Isdeitlau
Yng nghlasur Wim Wenders, mae angel yn gwrando ar feddyliau'r bodau dynol sy'n chwarae eu bywydau ar strydoedd Gorllewin Berlin, ac yn hiraethu am lawenydd pendant bodolaeth gorfforol pan mae'n syrthio mewn cariad â marwol.
Yn serennu Peter Falk, Curt Bois, Otto Sander, Solveig Dommartin a Bruno Ganz.
|
NATIONAL THEATRE LIVE
Mrs. Warren’s Profession
By Bernard Shaw
Directed by Dominic Cooke
Five-time Olivier Award winner Imelda Staunton (The Crown) joins forces with her real-life daughter Bessie Carter (Bridgerton) for the very first time, playing mother and daughter in Bernard Shaw’s incendiary moral classic.
Vivie Warren is a woman ahead of her time. Her mother, however, is a product of that old patriarchal order. Exploiting it has earned Mrs. Warren a fortune – but at what cost?
Filmed live from the West End, this new production reunites Staunton with director Dominic Cooke (Follies, Good), exploring the clash between morality and independence, traditions and progress.
* * * * *
Mrs. Warren’s Profession
Gan Bernard Shaw
Cyfarwyddwyd gan Dominic Cooke
Mae Imelda Staunton (The Crown), enillydd Gwobr Olivier bum gwaith, yn ymuno â'i merch go iawn, Bessie Carter (Bridgerton), am y tro cyntaf erioed, gan chwarae rhan mam a merch yng nghlasur moesol tanbaid Bernard Shaw.
Mae Vivie Warren yn fenyw o flaen ei hamser. Mae ei mam, fodd bynnag, yn gynnyrch yr hen drefn batriarchaidd honno. Mae manteisio arni wedi ennill ffortiwn i Mrs. Warren - ond am ba gost?
Wedi'i ffilmio'n fyw o'r West End, mae'r cynhyrchiad newydd hwn yn ailuno Staunton â'r cyfarwyddwr Dominic Cooke (Follies, Good), gan archwilio'r gwrthdaro rhwng moesoldeb ac annibyniaeth, traddodiadau a chynnydd.
|
La Fille Mal Gardée
The Royal Ballet
Lise, the only daughter of Widow Simone, is in love with the young farmer Colas, but her mother has far more ambitious plans for her. Simone hopes to marry her off to Alain, the son of the wealthy proprietor Thomas. Desperate to marry Colas rather than Alain, Lise contrives to outwit her mother’s plans.
65 years after its premiere, The Royal Ballet presents Frederick Ashton’s La Fille mal gardée. This affectionate portrayal of village life combines exuberant good humour and brilliantly inventive choreography in what is undoubtedly Ashton’s love letter to the English countryside. La Fille mal gardée whisks us away into pastoral bliss with Ferdinand Hérold’s cheerful score and Osbert Lancaster’s colourful designs.
Broadcasted live.
* * * * *
Mae Lise, unig ferch y Weddw Simone, mewn cariad â'r ffermwr ifanc Colas, ond mae gan ei mam gynlluniau llawer mwy uchelgeisiol ar ei chyfer. Mae Simone yn gobeithio ei phriodi ag Alain, mab y perchennog cyfoethog Thomas. Gan fod Lise yn awyddus i briodi Colas yn hytrach nag Alain, mae hi'n llwyddo i drechu cynlluniau ei mam.
65 mlynedd ar ôl ei pherfformiad cyntaf, mae'r Bale Brenhinol yn cyflwyno La Fille Mal Gardée gan Frederick Ashton. Mae'r
portread cariadus hwn o fywyd pentref yn cyfuno hiwmor da, bywiog a choreograffi dyfeisgar gwych. Yn ddiamau mae’r gwaith yn llythyr cariad wrth Ashton at gefn gwlad Lloegr. Mae La Fille Mal Gardée yn ein cludo ar daith o hapusrwydd gyda sgôr siriol Ferdinand Hérold a dyluniadau lliwgar Osbert Lancaster.
Darlledwyd yn fyw.
|
La Sonnambula
The Metropolitan Opera
Following triumphant Met turns in Roméo et Juliette, La Traviata, and Lucia di Lammermoor, Nadine Sierra summits another peak of the soprano repertoire as Amina, who sleepwalks her way into audiences’ hearts in Bellini’s poignant tale of love lost and found.
In his new production, Rolando Villazón—the tenor who has embarked on a brilliant second career as a director—retains the opera’s original setting in the Swiss Alps but uses its somnambulant plot to explore the emotional and psychological valleys of the mind. Tenor Xabier Anduaga returns after his acclaimed 2023 Met debut in L’Elisir d’Amore, co-starring as Amina’s fiancé Elvino, alongside soprano Sydney Mancasola as her rival, Lisa, and bass Alexander Vinogradov as Count Rodolfo.
Riccardo Frizza takes the podium for one of opera’s most ravishing works.
Sung in Italian with English subtitles
* * * * *
Yn dilyn cynhyrchiadau y Met o Roméo a Juliette, La Traviata, a Lucia di Lammermoor, mae Nadine Sierra yn ehangu ei repertoire fel soprano i gynnwys Amina. Mae’n ennill calonnau cynulleidfaoedd yn y stori deimladwy hon gan Bellini am ennill a cholli cariad.
Yn ei gynhyrchiad newydd, mae Rolando Villazón—y tenor sydd wedi cychwyn ar ail yrfa wych fel cyfarwyddwr—yn cadw lleoliad gwreiddiol yr opera yn Alpau'r Swistir ond yn defnyddio’r plot syfrdanol i archwilio dyffrynnoedd emosiynol a seicolegol y meddwl. Mae'r tenor Xabier Anduaga yn dychwelyd ar ôl ei ymddangosiad cyntaf clodwiw gyda'r Met yn 2023 yn L’Elisir d’Amore, yn cyd-serennu fel dyweddi Amina Elvino, ochr yn ochr â'r soprano Sydney Mancasola fel Lisa, a'r bas Alexander Vinogradov fel Cownt Rodolfo.
Mae Riccardo Frizza yn arwain un o weithiau mwyaf hudolus opera.
Wedi'i ganu yn Eidaleg gydag isdeitlau Saesneg.
|
Theatr Gwaun's Charity Gala 2025 is being held at Ffwrn in Fishguard. Guests may arrive from 7:00pm for a welcome drink and to soak up the warm ambience of Ffwrn. Dinner is a 3-course fine dining style set menu served at 7:30pm followed by the superb entertainment line up of two live bands - Zookbox, Kift and Fishguard & Goodwick RFC Male Voice Choir.
The dress code is black tie or smart evening wear.
Please provide dietary requirements (vegetarian, vegan, gluten free) via email to boxoffice@theatrgwaun.com. If no dietary requests are given, the set menu will be offered.
Note: Table 11 is nearest to the Bar. Table 4 is nearest to the entrance.
ZOOKBOX
Non, Angela and Zoe have know each other for many years originally as part of Fishguard Musical Theatre. Fishguard Bad Habits choir started from the group and became very popular. The choir has evolved its name into Decibelles. This choir is exceptional with memorable performances. The three ladies, who form part of the Decibelles have very different styles of singing suiting all genres, but blend effortlessly together to form Zookbox.
* * *
FISHGUARD & GOODWICK R.F.C. MALE VOICE CHOIR
Formed in the wake of a Six Nations heartbreak and forged in the spirit of camaraderie, the Fishguard and Goodwick Rugby Club Male Voice Choir has quickly become a vibrant musical force in Pembrokeshire. What began as a casual conversation over a pint has grown into a dynamic ensemble of over 30 passionate singers, united by a love of music, sport, and community.
Since its spontaneous debut—a flashmob performance during a rugby match—the choir has captivated audiences across the region. With 17 performances to date and bookings stretching to the end of the year, their repertoire spans stirring Welsh classics, humorous local poetry, and dramatic recitations from Under Milk Wood. Highlights include appearances for the RNLI, the Royal British Legion, the Fishguard Invasion Reenactment (in the presence of the First Minister), and a moving civic service at St Mary’s Church accompanied by a Scottish piper.
Led by musical director Tony Jones and chaired by Dorian Williams, the choir is more than just a musical group—it’s a fellowship. Members describe it as “the best thing that’s ever happened to them,” a place where friendships flourish and voices rise in harmony. Whether performing in pubs, at civic events, or gala dinners, the choir proudly represents the spirit of Fishguard and Goodwick, bringing joy, unity, and a touch of rugby club mischief wherever they go.
* * *
KIFT
Kift is a 4 piece alternative rock band from Pembrokeshire, based in Milford Haven. Dylan Macloed (guitar) Matthew Bearne (bass) Jack Jones (drums) and Anna James-Thomas (vocals). An original music band who were featured on Pure West Radio as Artist of the Week. Their song 'Palindrome' was played live on BBC Radio Wales this year after releasing their first EP "Happy Little Creatures" which can be found on all streaming platforms including Spotify, SoundCloud and YouTube.
* * * * * * *
Cynhelir Gala Elusen Theatr Gwaun 2025 yn Ffwrn yn Abergwaun. Gall gwesteion gyrraedd o 7:00yh am ddiod groeso ac i fwynhau awyrgylch cynnes Ffwrn. Mae cinio yn fwydlen osod 3 chwrs arddull bwyd cain a weinir am 7:30yh ac i ddilyn bydd dau fand byw yn perfformio gyda'u hadloniant gwych - Zookbox, Kift a Chôr Meibion Clwb Rygbi Abergwaun ac Wdig.
Y cod gwisg yw tei du neu wisg nos smart.
Rhowch ofynion dietegol (llysieuol, fegan, di-glwten) drwy e-bost i boxoffice@theatrgwaun.com. Os na roddir unrhyw geisiadau dietegol, cynigir y fwydlen osod.
ZOOKBOX
Mae Non, Angela a Zoe wedi adnabod ei gilydd ers blynyddoedd lawer yn wreiddiol fel rhan o Theatr Gerdd Abergwaun. Dechreuodd côr Fishguard Bad Habits o'r grŵp a daeth yn boblogaidd iawn. Mae'r côr wedi esblygu ei enw i Decibelles. Mae'r côr hwn yn eithriadol gyda pherfformiadau cofiadwy. Mae gan y tair menyw, sy'n rhan o'r Decibelles, arddulliau canu gwahanol iawn sy'n addas i bob genre, ond maent yn cyfuno'n ddiymdrech i ffurfio Zookbox.
* * *
CÔR MEIBION CLWB RYGBI ABERGWAUN AG WDIG
Wedi'i ffurfio yn ystod Pencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad, a'i ffurfio mewn ysbryd cyfeillgarwch, mae Côr Meibion Clwb Rygbi Abergwaun ac Wdig wedi dod yn rym cerddorol bywiog yn Sir Benfro, bron dros nos. Mae'r hyn a ddechreuodd fel sgwrs achlysurol dros beint wedi tyfu i fod yn ensemble deinamig o dros 30 o gantorion angerddol, wedi'u huno gan gariad at gerddoriaeth, chwaraeon a chymuned.
Ers ei ymddangosiad cyntaf—perfformiad fflachdorf yn ystod gêm rygbi—mae'r côr wedi swyno cynulleidfaoedd ledled y rhanbarth. Gyda 17 perfformiad hyd yma a gigiau’n ymestyn tan ddiwedd y flwyddyn, mae eu repertoire yn cwmpasu clasuron Cymreig cyffrous, barddoniaeth leol ddoniol, ac adroddiadau dramatig o Dan y Wenallt. Mae uchafbwyntiau'n cynnwys ymddangosiadau ar gyfer yr RNLI, y Lleng Brydeinig Frenhinol, Ail-gread Glaniad y Ffrancod (ym mhresenoldeb y Prif Weinidog), a gwasanaeth ddinesig cyffrous yn Eglwys y Santes Fair yng nghwmni pibydd o'r Alban.
Dan arweiniad y cyfarwyddwr cerdd Tony Jones a chadeirydd Dorian Williams, mae'r côr yn fwy na grŵp cerddorol yn unig—mae'n gymrodoriaeth. Mae aelodau’n ei ddisgrifio fel “y peth gorau sydd erioed wedi digwydd iddyn nhw,” lle mae cyfeillgarwch yn ffynnu a lleisiau’n codi mewn cytgord. Boed yn berfformiad mewn tafarn, digwyddiad mwy ffurfiol, neu ginio gala, mae’r côr yn cynrychioli ysbryd Abergwaun ac Wdig gyda balchder, gan ddod â llawenydd, undod, a chyffyrddiad o ddireidi clwb rygbi lle bynnag maen nhw’n mynd.
* * *
KIFT
Mae Kift yn fand roc amgen 4 darn o Sir Benfro, wedi'i leoli yn Aberdaugleddau. Dylan Macloed (gitâr) Matthew Bearne (bas) Jack Jones (drymiau) ac Anna James-Thomas (llais). Band cerddoriaeth wreiddiol a gafodd sylw ar Pure West Radio fel Artist yr Wythnos. Chwaraewyd eu cân 'Palindrome' yn fyw ar BBC Radio Wales eleni ar ôl rhyddhau eu EP cyntaf "Happy Little Creatures" y gellir dod o hyd iddo ar bob platfform ffrydio gan gynnwys Spotify, SoundCloud a YouTube.
Mercury Theatre Wales - 'The Woman on the Hill - Y Fenyw ar y Bryn'
A brand new production about climate change
Follow 25 years in the life of Carys, who lives in a Welsh community by the sea and her mission to tackle the effects of climate change by educating the local villagers. Whilst all the while the tides are rising and the waters are coming in.
The Woman on the Hill is an original, touring theatre show with toe-tapping tunes, that addresses climate change, inspiring audiences to consider their role in creating a better world.
There will be a short post-show discussion.
* * * * *
Cynhyrchiad newydd sbon am newid hinsawdd
Dilynwch 25 mlynedd ym mywyd Carys, sy'n byw mewn cymuned Gymreig wrth y môr. Ei chenhadaeth yw mynd i'r afael ag effeithiau newid hinsawdd trwy addysgu'r pentrefwyr lleol, tra bod y llanw'n codi a'r dyfroedd yn dod i mewn drwy'r amser.
Mae'r Fenyw ar y Bryn yn sioe theatr wreiddiol, deithiol gydag alawon cyffrous, sy'n trafod newid hinsawdd, gan ysbrydoli cynulleidfaoedd i ystyried eu rôl wrth greu byd gwell.
Bydd trafodaeth fer ar ôl y sioe.
Director: Harris Dickinson/2025/UK,USA/99mins
Sleeping rough on the streets of London, Mike seems unable to escape the chaos of his impulsivity and substance abuse. After a violent incident lands him in prison, he tries to piece his life back together upon his release by entering rehab, looking for work, and attempting to reconnect with people.
Starring Diane Axford, Frank Dillane and Murat Erkek.
* * *
Cyfarwyddwr: Harris Dickinson/2025/UK,USA/99munud
Wrth gysgu ar strydoedd Llundain, nid yw Mike yn gallu dianc rhag anhrefn ei fywyd tra’n camddefnyddio sylweddau. Mae digwyddiad treisgar yn ei roi yn y carchar. Wedi cael ei ryddhau, mae’n ceisio rhoi ei fywyd yn ôl at ei gilydd trwy ymwrthod â chyffuriau, chwilio am waith, a cheisio ailgysylltu â phobl.
Yn serennu Diane Axford, Frank Dillane a Murat Erkek.