Menu
Purchase

130 Years of Cinema: Archive Short Films (12A)

Main 4K

Sunday 25 Oct 2026, 17:00 

130 Years of Cinema: Archive Short Films


Experience 130 years of cinema in Wales through seven short films. The archive shorts in this screening have been selected to show a variety of film genres including action, animation, drama and factual films across the decades of Cinema in Wales. From the earliest known short film made in Wales in 1898 to the award winning Affairs of the Art from 2021. This will be a unique celebration of Welsh cinema.


The event will include films with different certifications, all will be suitable for children aged 12 or above (or younger if accompanied by an adult).


The films include the silent films Children on the Beach; Revenge, a dramatic comedy caper with some scenes of violence; the footage of the Welsh football team playing Ireland at Wrexham’s Racehorse Ground in 1906; a Jerry the Tyke cartoon; the wildlife documentary about the Private Life of Gannets on Grassholm; some stories from the Dial-a-Ride bus in the Brecon Beacons and Joanna Quinn’s famous animations of Beryl in Affairs of the Art.


Note:  All films are exempt from classification, apart from Dial-a-Ride (PG) and Affairs of the Art (12A).


130 Mlynedd o Sinema: Ffilmiau Byrion o'r Archif


Profwch 130 mlynedd o sinema yng Nghymru drwy saith ffilm fer. Mae'r ffilmiau byrion o'r archif yn y digwyddiad hwn wedi'u dewis i ddangos amrywiaeth o genres ffilm, gan gynnwys ffilmiau cyffro, animeiddio, drama a ffeithiol ar draws degawdau sinema yng Nghymru. O'r ffilm fer gynharaf hysbys a wnaed yng Nghymru ym 1898 i'r ffilm arobryn   o 2021. Bydd hwn yn ddathliad unigryw o sinema Gymreig.


Bydd y digwyddiad yn cynnwys ffilmiau â gwahanol raddfeydd oedran; bydd pob un yn addas ar gyfer plant 12 oed neu'n hŷn (neu'n iau os ydynt yng nghwmni oedolyn).


Mae'r ffilmiau'n cynnwys y ffilmiau tawel ‘Children on the Beach’, ‘Revenge’, comedi antur ddramatig gyda rhai golygfeydd o drais; y ffilm o dîm pêl-droed Cymru yn chwarae yn erbyn Iwerddon ar y Cae Ras, Wrecsam, ym 1906; cartŵn ‘Jerry the Tyke’; y rhaglen ddogfen natur am fywyd preifat y mulfrain (gannets) ar ynys Gwales; straeon o fysiau 'Dial-a-Ride' ym Mannau Brycheiniog; ac animeiddiadau enwog Joanna Quinn o'r cymeriad Beryl yn ‘Affairs of the Art’.


Sylwer: Mae pob ffilm wedi'i heithrio rhag cael ei dosbarthu yn ôl oedran, ac eithrio ‘Dial-a-Ride’ (PG) ac ‘Affairs of the Art’ (12A).



Shorts in detail


1. Children on the Beach The first known film made in Wales - shot on the beach at Rhyl in 1898. This simple and endlessly charming seaside scene was filmed at his local beach by Arthur Cheetham, the Rhyl-based cinema owner who became the first ever filmmaker based in Wales. The footage was shot in January of 1898 (which must have been chilly for the kids!) and first screened in Rhyl Town Hall.


2. The silent movie Revenge!, an intense comedy caper. This film's dramatic chase sequences, sex and violence delighted fairground audiences when it was released in 1904. The hero, played by Will Haggar Junior, has been unjustly confined in an Asylum by the Master of the Asylum, so that he can seduce the hero's wife. Will Junior escapes down a rope of knotted sheets, and surprises the Master embracing his wife, but in the ensuing melee the wife and his little daughter are both shot dead, and he is recaptured. Again he escapes, and flees along a stream. Brought to bay at the edge of a precipice, he whirls four warders to their deaths, then returns to the Asylum to settle his score ends with him strangling the Master with his bare hands.


3. Come and see Wales versus Ireland at the Racecourse Ground in Wrexham - from 1906! In what may be the earliest International football match recorded on film, Wales play Ireland in a Home Championship fixture at Wrexham's Racecourse Ground. Wales (in the darker kit) are cheered on by a lively home crowd. This was a high-scoring game, ending in a 4-4 draw.


4. Jerry the Tyke, first produced in 1925, by Cardiff-based animator Sid Griffiths and photographer Bert Bilby, who both worked as projectionists at Cardiff’s Capitol Cinema. The cheeky dog appeared across UK cinemas within British Pathé’s news-magazines. Inspired by the American animation Felix the Cat, Jerry the Tyke was a mixture of live-action sequences and animation, 40 animations were created between 1925 and 1927.


5. The Private Life of Gannets, won best short film at the 1938 Oscars, a documentary about breeding colony of gannets on Grassholm island in Pembrokeshire.


6. Meet the riders on the Dial-a-Ride bus in the Brecon Beacons and experience life from their perspective. Journeying through rural South Wales, passengers on the bus reveal all the joys, challenges and quirks of growing older. The film follows the passengers and their stories through the changing seasons, and is a touching, heartwarming look at what it means to grow old in rural Britain.


7. Celebrate Joanna Quinn and Les Mills’ famous animations of Beryl in Affairs of the Art. How many obsessions can one family have? In this film, we reconnect with Beryl, the working-class heroine who not only reveals her own obsession with drawing but exposes the addictions of her eccentric family, which include pickling, screw threads and pet taxidermy.


***


Manylion y ffilmiau byrion


1. ‘Children on the Beach’ Y ffilm gyntaf hysbys a wnaed yng Nghymru – a saethwyd ar y traeth yn y Rhyl ym 1898. Cafodd y golygfa syml a hynod swynol hon ar lan môr ei ffilmio ar ei draeth lleol gan Arthur Cheetham, perchennog sinema o'r Rhyl a ddaeth yn wneuthurwr ffilmiau cyntaf erioed i fod wedi'i leoli yng Nghymru. Cafodd y ffilm ei saethu ym mis Ionawr 1898 (rhaid bod hi wedi bod yn oer i'r plant!) a'i dangos am y tro cyntaf yn Neuadd Dref y Rhyl.


2. Y ffilm dawel ‘Revenge!’, comedi antur ddwys. Fe wnaeth golygfeydd dramatig o erlid, rhyw a thrais y ffilm hon blesio cynulleidfaoedd ffeiriau pan gafodd ei rhyddhau ym 1904. Mae'r arwr, a chwaraeir gan Will Haggar Junior, wedi cael ei garcharu'n anghyfiawn mewn ysbyty meddwl gan y rheolwr, er mwyn i'r rheolwr allu denu gwraig yr arwr. Mae Will Junior yn dianc gan ddefnyddio rhaff o gynfasau wedi'u clymu, ac yn synnu'r rheolwr wrth iddo gofleidio ei wraig; fodd bynnag, yn y frwydr sy’n dilyn, caiff y wraig a'u merch fach eu saethu'n farw, ac mae ef yn cael ei ddal unwaith eto. Mae'n dianc eto ac yn ffoi ar hyd nant. Wedi'i gornelu ar ymyl clogwyn, mae'n taflu pedwar gwarchodwr i'w marwolaeth, ac yna'n dychwelyd i'r ysbyty i setlo'r sgôr – gan orffen gyda'r arwr yn tagu'r rheolwr â'i ddwylo noeth.


3. Dewch i weld Cymru yn erbyn Iwerddon ar y Cae Ras yn Wrecsam – o 1906! Yn yr hyn a allai fod y gêm bêl-droed ryngwladol gynharaf i'w chofnodi ar ffilm, mae Cymru'n chwarae yn erbyn Iwerddon mewn gêm ym Mhencampwriaeth y Gwledydd Cartref ar y Cae Ras yn Wrecsam. Mae torf fywiog yn annog Cymru (sy'n gwisgo'r cit tywyll) ymlaen. Roedd hon yn gêm lle sgoriwyd llawer o goliau, gan orffen gyda gêm gyfartal, pedwar gôl yr un.


4. Jerry the Tyke – cynhyrchwyd y cymeriad hwn gyntaf ym 1925 gan yr animeiddiwr Sid Griffiths a'r ffotograffydd Bert Bilby, y ddau ohonynt yn gweithio fel gweithredwyr taflunyddion yn Sinema Capitol Caerdydd. Ymddangosodd y ci direidus mewn sinemâu ledled y DU fel rhan o raglenni newyddion a nodweddion British Pathé. Wedi'i ysbrydoli gan y cartŵn Americanaidd Felix the Cat, roedd Jerry the Tyke yn gymysgedd o olygfeydd byw ac animeiddio; crëwyd 40 o ffilmiau animeiddiedig rhwng 1925 a 1927.


5. Enillodd ‘The Private Life of Gannets’ y wobr am y ffilm fer orau yng ngwobrau'r Oscars ym 1938; mae'n rhaglen ddogfen am nythfa o huganod ar ynys Gwales yn Sir Benfro.


6. Dewch i gwrdd â theithwyr bws 'Dial-a-Ride' ym Mannau Brycheiniog a phrofi bywyd o'u safbwynt hwy. Wrth deithio drwy gefn gwlad De Cymru, mae teithwyr y bws yn datgelu holl lawenydd, heriau a rhyfeddodau heneiddio. Mae'r ffilm yn dilyn y teithwyr a'u straeon wrth i'r tymhorau newid, ac yn cynnig golwg deimladwy a chalonogol ar beth mae'n ei olygu i heneiddio yng nghefn gwlad Prydain.


7. Dathlwch animeiddiadau enwog Joanna Quinn a Les Mills o'r cymeriad Beryl yn ‘Affairs of the Art’. Faint o obsesiynau all un teulu eu cael? Yn y ffilm hon, rydym yn ailymuno â Beryl – yr arwres o'r dosbarth gweithiol – sydd nid yn unig yn datgelu ei obsesiwn ei hun â thynnu lluniau, ond hefyd yn amlygu obsesiynau ei theulu ecsentrig, gan gynnwys piclo, sgriwiau a chadw anifeiliaid anwes wedi'u stwffio.

Welsh Film Festival

Choose Seats (Click the Seating Plan to select each Seat in turn, up to 50 in total)

A18A17A16A15A14A13A12A11A10A9A8A7A6A5A4A3A2A1B18B17B16B15B14B13B12B11B10B9B8B7B6B5B4B3B2B1C18C17C16C15C14C13C12C11C10C9C8C7C6C5C4C3C2C1D18D17D16D15D14D13D12D11D10D9D8D7D6D5D4D3D2D1E18E17E16E15E14E13E12E11E10E9E8E7E6E5E4E3E2E1F18F17F16F15F14F13F12F11F10F9F8F7F6F5F4F3F2F1G18G17G16G15G14G13G12G11G10G9G8G7G6G5G4G3G2G1H18H17H16H15H14H13H12H11H10H9H8H7H6H5H4H3H2H1I18I17I16I15I14I13I12I11I10I9I8I7I6I5I4I3I2I1J18J17J16J15J14J13J12J11J10J9J8J7J6J5J4J3J2J1

Standard
Adult£5.00
Child£5.00
Snr Citizen£5.00