Main 4K
Monday 27 Jul 2026, 19:30 - ends at 21:30
FISHGUARD FESTIVAL OF MUSIC
Pedair, feminine form of 'pedwar' ('four' in Welsh) draws on the talents of four of Wales' most prominent and award-winning folk artists: Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym and Siân James. Groundbreaking international artists in their own right, all four thrive on collaboration and the thrill of live performance.
Together they bring to life traditional material with new arrangements on harps, guitars, piano and accordion. Their live performances have captured the imaginations and hearts of audiences with their sweeping harmonies, fresh interpretations of the Welsh folk tradition, and intimacy of songwriting.
Their first recordings, having emerged during lockdown, gained instant popularity, unexpectedly becoming a source of comfort and hope to many. Having won the ‘Albym Cymraeg y Flwyddyn’ (Welsh Album of the Year Award) at the National Eisteddfod in 2023, with their debut album, ‘Mae ’na Olau’, released by Sain, their much anticipated second album, 'Dadeni', was released in November 2024. They have performed extensively in Wales and recently at festivals in Europe and Canada. In November 2025 they undertook a very successful concert tour in Patagonia.
Fishguard Festival of Music - 18th to 31st July 2026.
To read the line up of events and to book tickets, head to the website https://www.fishguardmusicfestival.com/
* * *
GWYL GERDD ABERGWAUN
Mae Pedair yn dwyn ynghŷd dalentau pedair o artistiaid gwerin arobryn amlycaf Cymru: Siân James, Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn and Meinir Gwilym. A'r pedair yn artistiaid rhyngwladol blaengareu hunain, maent yn ffynnu wrth gydweithio a pherfformio'n fyw.
Gyda'i gilydd dônt â bywyd newydd i ddeunydd traddodiadol gyda threfniannau newydd ar delynau, gitârs a phiano. Mae eu perfformiadau byw wedi cydio yn nychymyg a chalonnau cynulleidfaoedd, gyda'u harmonîau ysgubol, ymdriniaeth grefftus o'r traddodiad, ac agosatrwydd y caneuon maent yn eu cyfansoddi.
Gwelodd eu recordiadau cyntaf olau dydd yn ystod y cyfnod clo, a buan y daeth eu caneuon yn hynod boblogaidd, ac yn ffynhonnell cysur a gobaith annisgwyl i nifer o bobol. Rhyddhawyd eu halbym cyntaf, 'Mae' na olau', ar label Sain yn 2022, albym a enillodd iddynt wobr 'Albym Cymraeg y Flwyddyn' yn 2023. Rhyddhawyd eu hail albym hirddisgwyliedig, 'Dadeni', yn 2024. Maent wedi perfformio'n helaeth yng Nghymru ac yn ddiweddar mewn gwyliau yn Ewrop a Canada. Ym mis Tachwedd 2025 buont yn perfformio fel rhan o daith arbennig i'r Wladfa ym Mhatagonia.
Gŵyl Cerddoriaeth Abergwaun - 18fed i 31ain Gorffennaf 2026.
I ddarllen rhestr y digwyddiadau ac i archebu tocynnau, ewch i'r wefan https://www.fishguardmusicfestival.com/