Menu
Purchase

The Long Walk (15)

The Long Walk

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Sunday 19 Oct 202519:30

Director: Francis Lawrence/2025/USA/108mins


In a dystopian, totalitarian version of America, a group of teenage boys compete in a gruelling, high-stakes endurance contest where they must continuously walk until only one of them remains. If they stop walking, the consequences are deadly; based on the novel of the same name by Stephen King. “One of the best films of 2025”, George Simpson, Film Editor, Express.


*  *  *


Cyfarwyddwr:  Francis Lawrence/2025/USA/108munud


Mewn fersiwn dystopiaidd, totalitaraidd o America, mae grŵp o fechgyn yn eu harddegau yn cystadlu mewn her anodd, llawn risg lle mae'n rhaid iddynt gerdded yn barhaus nes mai dim ond un ohonynt sydd ar ôl. Os rhônt y gorau i gerdded, mae'r canlyniadau'n angheuol; yn seiliedig ar y nofel o'r un enw gan Stephen King. “Un o ffilmiau gorau 2025” George Simpson, Golygydd Ffilm, Express.

A Big Bold Beautiful Journey (15)

A Big Bold Beautiful Journey

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Monday 20 Oct 202511:00
Wednesday 22 Oct 202511:00 (Relaxed. Subtitled)19:30 (Subtitled)

Director:  Kogonada/2025/Ireland,USA/109mins


Single strangers, Sarah (Margot Robbie) and David (Colin Farrell), meet at a mutual friend’s wedding and, through a surprising twist of fate, get to relive important moments from their respective pasts, illuminating how they got to where they are in the present — and possibly getting a chance to alter their futures.  


Starring Margot Robbie, Colin Farrell and Kevin Kline.


*  *  *


Cyfarwyddwr:  Kogonada/2025/Ireland,USA/109munud


Mae Sarah (Margot Robbie) a David (Colin Farrell), y ddau’n sengl, yn cwrdd am y tro cyntaf ym mhriodas ffrind cyffredin. Trwy dro annisgwyl, maent yn cael ail-fyw eiliadau pwysig o'u gorffennol. Mae’r profiad  yn goleuo sut y cyrhaeddon nhw lle maen nhw yn y presennol - ac o bosibl yn cael cyfle i newid eu dyfodol.


Yn serennu Margot Robbie, Colin Farrell a Kevin Kline.



RB&O La Sonnambula

RB&O La Sonnambula

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Tuesday 21 Oct 202518:45 (The Metropolitan Opera)

La Sonnambula


The Metropolitan Opera


Following triumphant Met turns in Roméo et Juliette, La Traviata, and Lucia di Lammermoor, Nadine Sierra summits another peak of the soprano repertoire as Amina, who sleepwalks her way into audiences’ hearts in Bellini’s poignant tale of love lost and found.


In his new production, Rolando Villazón—the tenor who has embarked on a brilliant second career as a director—retains the opera’s original setting in the Swiss Alps but uses its somnambulant plot to explore the emotional and psychological valleys of the mind. Tenor Xabier Anduaga returns after his acclaimed 2023 Met debut in L’Elisir d’Amore, co-starring as Amina’s fiancé Elvino, alongside soprano Sydney Mancasola as her rival, Lisa, and bass Alexander Vinogradov as Count Rodolfo.


Riccardo Frizza takes the podium for one of opera’s most ravishing works.


Sung in Italian with English subtitles


*  *  *  *  *


Yn dilyn cynhyrchiadau y Met o Roméo a Juliette, La Traviata, a Lucia di Lammermoor, mae Nadine Sierra yn ehangu ei repertoire fel soprano i gynnwys Amina. Mae’n ennill calonnau cynulleidfaoedd yn y stori deimladwy hon gan Bellini am ennill a cholli cariad.


Yn ei gynhyrchiad newydd, mae Rolando Villazón—y tenor sydd wedi cychwyn ar ail yrfa wych fel cyfarwyddwr—yn cadw lleoliad gwreiddiol yr opera yn Alpau'r Swistir ond yn defnyddio’r plot syfrdanol i archwilio dyffrynnoedd emosiynol a seicolegol y meddwl. Mae'r tenor Xabier Anduaga yn dychwelyd ar ôl ei ymddangosiad cyntaf clodwiw gyda'r Met yn 2023 yn L’Elisir d’Amore, yn cyd-serennu fel dyweddi Amina Elvino, ochr yn ochr â'r soprano Sydney Mancasola fel Lisa, a'r bas Alexander Vinogradov fel Cownt Rodolfo.


Mae Riccardo Frizza yn arwain un o weithiau mwyaf hudolus opera.


Wedi'i ganu yn Eidaleg gydag isdeitlau Saesneg.

NTL Mrs. Warren’s Profession (12A)

NTL Mrs. Warren’s Profession

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Thursday 23 Oct 202519:00 (National Theatre Live)

NATIONAL THEATRE LIVE


Mrs. Warren’s Profession


By Bernard Shaw

Directed by Dominic Cooke

 

Five-time Olivier Award winner Imelda Staunton (The Crown) joins forces with her real-life daughter Bessie Carter (Bridgerton) for the very first time, playing mother and daughter in Bernard Shaw’s incendiary moral classic.


Vivie Warren is a woman ahead of her time. Her mother, however, is a product of that old patriarchal order. Exploiting it has earned Mrs. Warren a fortune – but at what cost?


Filmed live from the West End, this new production reunites Staunton with director Dominic Cooke (Follies, Good), exploring the clash between morality and independence, traditions and progress.


*  *  *  *  *

 

Mrs. Warren’s Profession


Gan Bernard Shaw

Cyfarwyddwyd gan Dominic Cooke


Mae Imelda Staunton (The Crown), enillydd Gwobr Olivier bum gwaith, yn ymuno â'i merch go iawn, Bessie Carter (Bridgerton), am y tro cyntaf erioed, gan chwarae rhan mam a merch yng nghlasur moesol tanbaid Bernard Shaw.


Mae Vivie Warren yn fenyw o flaen ei hamser. Mae ei mam, fodd bynnag, yn gynnyrch yr hen drefn batriarchaidd honno. Mae manteisio arni wedi ennill ffortiwn i Mrs. Warren - ond am ba gost?


Wedi'i ffilmio'n fyw o'r West End, mae'r cynhyrchiad newydd hwn yn ailuno Staunton â'r cyfarwyddwr Dominic Cooke (Follies, Good), gan archwilio'r gwrthdaro rhwng moesoldeb ac annibyniaeth, traddodiadau a chynnydd.

Islands (15)

Islands

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Friday 24 Oct 202519:30
Sunday 26 Oct 202519:30

Director: Jan-Ole Gerster/2025/Germany/120mins/Subtitled


Islands is a contemporary, intelligent thriller with noirish undertones set in the sun drenched volcanic landscapes of the Canary Islands. Washed-up tennis pro Tom clings to a job coaching holidaymakers at a hotel in Fuerteventura.


When an English couple arrive, their presence sets off a chain of events that leads to a mysterious disappearance.


“A scorching, sun-frazzled Hitchcockian delight”– Nick Howells, The London Standard.


*  *  *


Cyfarwyddwr: Jan-Ole Gerster/2025/Germany/120mins/Isdeitlau


Mae ‘Islands’ yn ffilm gyfoes, ddeallus gyda naws noir, wedi'i lleoli yn nhirweddau folcanig heulog Ynysoedd y Canaria. Mae'r chwaraewr tenis proffesiynol Tom yn glynu wrth swydd fel hyfforddwr mewn gwesty yn Fuerteventura.


Pan fydd cwpl o Loegr yn cyrraedd, mae eu presenoldeb yn sbarduno cadwyn o ddigwyddiadau sy'n arwain at ddiflaniad dirgel.


“Pleser Hitchcockaidd dan haul crasboeth”– Nick Howells, The London Standard.

Pets on a Train (PG)

Pets on a Train

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Saturday 25 Oct 202511:00 (Kids Club)
Sunday 26 Oct 202514:00
Monday 27 Oct 202514:00
Tuesday 28 Oct 202511:00
Wednesday 29 Oct 202511:00 (Relaxed. Subtitled)

Director:  Benoît Daffis,Jean-Christian Tassy/2025/France,USA/87mins


When a crew of animal bandits embark on a routine swindle, they find themselves caught up in a train heist masterminded by Hans, a vengeful badger, who seems intent on causing a catastrophic crash. In order to save themselves and the other animals on board, they must rely on Falcon, a petty thief raccoon, and Rex, a righteous police dog.


Starring Damien Ferrette, Hervé Jolly and Kaycie Chase.


*  *  *


Cyfarwyddwr:  Benoît Daffis,Jean-Christian Tassy/2025/France,USA/87munud


Pan fydd criw o ladron anifeiliaid yn cychwyn ar gynllun i ddwyn, maent yn cael eu hunain wedi'u dal mewn lladrad trên mentrus Hans, mochyn daear dialgar, sy'n ymddangos yn benderfynol o achosi damwain drychinebus. Er mwyn achub eu hunain a'r anifeiliaid eraill ar fwrdd y trên, rhaid iddynt ddibynnu ar Falcon, lleidr racŵn bach, a Rex, ci heddlu egwyddorol.


Yn serennu Damien Ferrette, Hervé Jolly a Kaycie Chase.



 

One Battle After Another (15)

One Battle After Another

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Saturday 25 Oct 202519:30
Tuesday 28 Oct 202519:30

Director: Paul Thomas Anderson/2025/USA/161mins


Bob is a washed-up revolutionary who lives in a state of stoned paranoia, surviving off-grid with his spirited and self-reliant daughter, Willa.


When his evil nemesis resurfaces and Willa goes missing, the former radical scrambles to find her as both father and daughter battle the consequences of their past.


Starring Leonardo DiCaprio, Sean Penn and Benicio del Toro.


*  *  *


Cyfarwyddwr:  Paul Thomas Anderson/2025/USA/161munud


Mae Bob yn chwyldroadwr sydd wedi colli ei ffordd ac sy'n byw mewn cyflwr o baranoia difrifol, gan oroesi oddi ar y grid gyda'i ferch egnïol a hunangynhaliol, Willa.


Pan fydd gelyn yn ailymddangos ac mae Willa'n mynd ar goll, mae'r cyn-radical yn rhuthro i ddod o hyd iddi. Rhaid i’r tad a'r ferch frwydro yn erbyn canlyniadau eu gorffennol.


Yn serennu Leonardo DiCaprio, Sean Penn a Benicio del Toro.

The Woman on the Hill

The Woman on the Hill

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Thursday 30 Oct 202519:30
Friday 31 Oct 202519:30

Mercury Theatre Wales - 'The Woman on the Hill - Y Fenyw ar y Bryn'


A brand new production about climate change


Follow 25 years in the life of Carys, who lives in a Welsh community by the sea and her mission to tackle the effects of climate change by educating the local villagers. Whilst all the while the tides are rising and the waters are coming in.


The Woman on the Hill is an original, touring theatre show with toe-tapping tunes, that addresses climate change, inspiring audiences to consider their role in creating a better world.


There will be a short post-show discussion.


*  *  *  *  *


Cynhyrchiad newydd sbon am newid hinsawdd


Dilynwch 25 mlynedd ym mywyd Carys, sy'n byw mewn cymuned Gymreig wrth y môr. Ei chenhadaeth yw mynd i'r afael ag effeithiau newid hinsawdd trwy addysgu'r pentrefwyr lleol, tra bod y llanw'n codi a'r dyfroedd yn dod i mewn drwy'r amser.


Mae'r Fenyw ar y Bryn yn sioe theatr wreiddiol, deithiol gydag alawon cyffrous, sy'n trafod newid hinsawdd, gan ysbrydoli cynulleidfaoedd i ystyried eu rôl wrth greu byd gwell.


Bydd trafodaeth fer ar ôl y sioe.

Strange Journey: The Story of Rocky Horror (15)

Strange Journey: The Story of Rocky Horror

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Saturday 1 Nov 202517:00

Director:  Linus O’Brien/ 2025/USA/90mins


In this definitive documentary, Linus O’Brien - son of ‘Rocky Horror’ creator Richard O’Brien - uses his intimate access to major players, such as Tim Curry and Susan Sarandon, to chronicle the life of his father’s creation: from its origins as a London fringe theatre play to its meteoric rise, fall, and resurrection as a groundbreaking cult phenomenon.


Starring Lou Adler, Barry Bostwick, Tim Curry and Jack Black.


*  *  *


Cyfarwyddwr: Linus O’Brien/ 2025/USA/90munud


Yn y rhaglen ddogfen hon, mae Linus O’Brien - mab crëwr ‘Rocky Horror’ Richard O’Brien - yn defnyddio ei gyswllt agos at actorion mawr, fel Tim Curry a Susan Sarandon, i gofnodi trywydd creadigaeth ei dad: o’i tharddiad fel drama theatr ymylol yn Llundain i’w esgyniad, cwymp ac atgyfodiad meteorig fel ffenomen gwlt arloesol.


Yn serennu Lou Adler, Barry Bostwick, Tim Curry a Jack Black.


The Rocky Horror Picture Show (50th Anniversary) (12A)

The Rocky Horror Picture Show (50th Anniversary)

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Saturday 1 Nov 202519:30

Director:  Jim Sharman/1975/USA,UK/100mins


‘The Rocky Horror Picture Show’ turns 50! In this transgressive cult classic, a flat tyre leaves young sweethearts Brad (Barry Bostwick) and Janet (Susan Sarandon) stranded on a stormy night. Seeking shelter in an eerie castle nearby, they enter the bizarre world of the eccentric Dr. Frank-N-Furter (Tim Curry) and his companions.


*  *  *


Cyfawrwyddwr:  Jim Sharman/1975/USA,UK/100munud


Mae ‘The Rocky Horror Picture Show’ yn troi’n 50 oed! Yn y clasur cwlt trawsdrefol hwn, mae teiar fflat yn gadael y cariadon ifanc Brad (Barry Bostwick) a Janet (Susan Sarandon) yn sownd ar noson stormus. Gan chwilio am loches mewn castell brawychus gerllaw, maent yn mynd i mewn i fyd rhyfedd yr ecsentrig Dr. Frank-N-Furter (Tim Curry) a'i gymdeithion.

Urchin (15)

Urchin

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Sunday 2 Nov 202519:30
Monday 3 Nov 202511:00

Director:  Harris Dickinson/2025/UK,USA/99mins


Sleeping rough on the streets of London, Mike seems unable to escape the chaos of his impulsivity and substance abuse. After a violent incident lands him in prison, he tries to piece his life back together upon his release by entering rehab, looking for work, and attempting to reconnect with people.


Starring Diane Axford, Frank Dillane and Murat Erkek.


*  *  *


Cyfarwyddwr:  Harris Dickinson/2025/UK,USA/99munud


Wrth gysgu ar strydoedd Llundain, nid yw Mike yn gallu dianc rhag anhrefn ei fywyd tra’n camddefnyddio sylweddau. Mae digwyddiad treisgar yn ei roi yn y carchar. Wedi cael ei ryddhau, mae’n ceisio rhoi ei fywyd yn ôl at ei gilydd trwy ymwrthod â chyffuriau, chwilio am waith, a cheisio ailgysylltu â phobl.



Yn serennu Diane Axford, Frank Dillane a Murat Erkek.


RB&O La Fille Mal Gardée

RB&O La Fille Mal Gardée

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Wednesday 5 Nov 202519:15 (Live Broadcast from London)

La Fille Mal Gardée


The Royal Ballet


Lise, the only daughter of Widow Simone, is in love with the young farmer Colas, but her mother has far more ambitious plans for her. Simone hopes to marry her off to Alain, the son of the wealthy proprietor Thomas, desperate to marry Colas rather than Alain, Lise contrives to outwit her mother’s plans.


65 years after its premiere, The Royal Ballet presents Frederick Ashton’s La Fille mal gardée. This affectionate portrayal of village life combines exuberant good humour and brilliantly inventive choreography in what is undoubtedly Ashton’s love letter to the English countryside. La Fille mal gardée whisks us away into pastoral bliss with Ferdinand Hérold’s cheerful score and Osbert Lancaster’s colourful designs.


Broadcasted live.


*  *  *  *  *


Mae Lise, unig ferch y Weddw Simone, mewn cariad â'r ffermwr ifanc Colas, ond mae gan ei mam gynlluniau llawer mwy uchelgeisiol ar ei chyfer. Mae Simone yn gobeithio ei phriodi ag Alain, mab y perchennog cyfoethog Thomas, gan fod Lise yn awyddus i briodi Colas yn hytrach nag Alain, mae hi'n llwyddo i drechu cynlluniau ei mam.


65 mlynedd ar ôl ei pherfformiad cyntaf, mae'r Bale Brenhinol yn cyflwyno La Fille Mal Gardée gan Frederick Ashton. Mae'r

portread cariadus hwn o fywyd pentref yn cyfuno hiwmor da, bywiog a choreograffi dyfeisgar gwych. Yn ddiamau mae’r gwaith yn llythyr cariad wrth Ashton at gefn gwlad Lloegr. Mae La Fille Mal Gardée yn ein cludo ar daith o hapusrwydd gyda sgôr siriol Ferdinand Hérold a dyluniadau lliwgar Osbert Lancaster.


Darlledwyd yn fyw.

FFS-Late Shift (12A)

FFS-Late Shift

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Thursday 6 Nov 202519:30 (Fishguard Film Society.Subtitled)

Director: Petra Volpe/2025/Switzerland,Germany/91mins/Subtitles


The film follows Floria, a dedicated nurse, on her demanding shift in a Swiss hospital where staff shortages impose an intolerable workload on the staff.  


Floria’s shift quickly becomes an urgent race against time, culminating in a gripping climax.  A timely and compelling statement on the crises facing health services across Europe.


*  *  *  *  *


Cyfarwyddwr: Petra Volpe/2025/Switzerland,Germany/91munud/Isdeitlau


Mae'r ffilm yn dilyn Floria, nyrs ymroddedig, ar ei shifft heriol mewn ysbyty yn y Swistir lle mae prinder staff yn gosod llwyth gwaith annioddefol ar y staff.


Mae shifft Floria yn gyflym yn dod yn ras frys yn erbyn amser, gan gyrraedd uchafbwynt cyffrous. Datganiad amserol a chymhellol ar yr argyfyngau sy'n wynebu gwasanaethau iechyd ledled Ewrop.

Pews at Ten

Pews at Ten

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Saturday 8 Nov 202519:30 (Live Comedy Play)

PEWS AT TEN - A COMEDY PLAY


Three elderly Welsh women take their usual pew at St Davids Cathedral. As pillars of their community, they’re trusted with the biggest events and celebrations. Despite this, their days are spent gossiping and bickering (unaware that David, the newest member of the Church, is sat just behind them). When they learn of a special guest’s arrival in their town, watch as they navigate, NDAs, hors d’Oevres, and a bumbling English man desperate to help out.


A comedic, farcical show about friendship, respect and the importance of a homemade Welsh cake.


*  *  *


Mae tair menyw oedrannus o Gymru yn eistedd ar eu meinciau arferol yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Fel hoelion wyth eu cymuned, mae pawb yn ymddiried ynddyn nhw i drefnu’r digwyddiadau a'r dathliadau pwysicaf. Er gwaethaf hyn, mae nhw'n treulio eu dyddiau'n hel clecs ac yn dadlau ymysg eu gilydd (heb wybod bod David, aelod newydd o’r Eglwys, yn eistedd y tu ôl iddyn nhw).


Yna daw’r newyddion am ymweliad gwestai arbennig i'w dinas. Gwyliwch wrth iddyn nhw ymdopi gyda chytundebau cyfrinachol (NDAs), hors d'Oevres, a Sais trwsgwl sy'n awyddus i helpu.


Sioe gomedi, ffarsaidd sy’n dangos pwysigrwydd cyfeillgarwch, parch a Phice ar y Maen traddodiadol.


Ein Hanes-The Growth of Fishguard from 1800 Pt.2

Ein Hanes-The Growth of Fishguard from 1800 Pt.2

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Wednesday 12 Nov 202518:00 (Local History Talk)

The growth of Fishguard from 1800, and what might come next!


Speaker: Henry Jones


How Fishguard has changed from being a small trading/market town in the early 1800s into a dormitory town with tourist aspirations that it is now!


What is holding the town back from further changes, especially those that could make it more attractive to visitors while retaining its character and serving the needs of the resident community?


*  *  *


Siaradwr: Henry Jones


Sut mae Fishguard wedi newid o fod yn dref fasnachu/mentrau fach yn ystod cynnar y 1800au i fod yn dref gwely gyda dyheadau twristiaeth fel y mae nawr!


Beth sy'n atal y dref rhag newid pellach, yn enwedig y newidiadau a allai ei gwneud yn fwy deniadol i ymwelwyr tra'n cadw ei nodwedd ganolog ac yn gwasanaethu anghenion cymuned preswyl?

FFS-When Autumn Falls (12A)

FFS-When Autumn Falls

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Thursday 20 Nov 202519:30 (Fishguard Film Society.Subtitled)

Director: François Ozon/2024/France/102mins/Subtitles


81 year-old Michelle lives in quiet retirement in a picturesque Burgundy village but a visit from her hostile daughter and the release from prison of her friend, Marie-Claude’s, miscreant son give rise to family tensions.  


Ozon’s psychological drama reveals dangerous secrets and the disastrous ramifications of a poisoning, but is this accidental or attempted murder?


*  *  *  *  *


Cyfarwyddwr: François Ozon/2024/Ffrainc/102munud/Isdeitlau


Mae Michelle, 81 oed, yn byw mewn ymddeoliad tawel mewn pentref hardd ym Mwrgandy, ond mae ymweliad gan ei merch gelyniaethus a rhyddhau mab drygionus ei ffrind, Marie-Claude, o'r carchar, yn arwain at densiynau teuluol.


Mae drama seicolegol Ozon yn datgelu cyfrinachau peryglus a chanlyniadau trychinebus enghraifft o wenwyno, ond ai llofruddiaeth ddamweiniol neu ymgais i lofruddio yw hyn?

RB&O Cinderella 2025

RB&O Cinderella 2025

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Tuesday 25 Nov 202519:15 (Royal Ballet)

Cinderella


The Royal Ballet


Stuck at home and put to work by her spoiled Step-Sisters, Cinderella’s life is dreary and dull. Everything changes when she helps a mysterious woman out... With a little bit of magic, she is transported into an ethereal new world – one where fairies bring the gifts of the seasons, where pumpkins turn into carriages, and where true love awaits.


This enchanting ballet by The Royal Ballet’s Founding Choreographer Frederick Ashton is a theatrical experience for all the family and will transport you into an ethereal world where a sprinkling of fairy dust makes dreams come true.


Filmed live at the Royal Opera House, London in December 2024


*  *  *  *  *


Wedi'i chaethiwo ac wedi'i gorfodi i weithio gan ei llys-chwiorydd , mae bywyd Sinderela yn ddiflas. Mae popeth yn newid pan mae hi'n helpu ymwelydd ddirgel...gyda hud a lledrith, mae hi'n cael ei chludo i fyd newydd afreal - un lle mae tylwyth teg yn dod â rhoddion y tymhorau, lle mae pwmpenni’n troi'n gerbydau, a lle mae gwir gariad yn aros.


Mae'r bale hudolus hwn gan goreograffydd sefydlog y Royal Ballet, Frederick Ashton, yn brofiad theatrig i'r teulu cyfan. Bydd yn eich cludo i fyd ffantasi lle mae ychydig o lwch tylwyth teg yn gwireddu breuddwydion.


Ffilmiwyd yn fyw yn y Royal Opera House, Llundain ym mis Rhagfyr 2024

NTL The Fifth Step (15)

NTL The Fifth Step

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Thursday 27 Nov 202519:00 (National Theatre Live)

NATIONAL THEATRE LIVE


The Fifth Step


By David Ireland

Directed by Finn den Hertog


Olivier Award-winner Jack Lowden (Slow Horses, Dunkirk) is joined by Emmy and BAFTA-winner Martin Freeman (The Hobbit, The Responder) in the critically acclaimed and subversively funny new play by David Ireland.


After years in the 12-step programme of Alcoholics Anonymous, James becomes a sponsor to newcomer Luka. The pair bond over black coffee, trade stories and build a fragile friendship out of their shared experiences.


But as Luka approaches step five – the moment of confession – dangerous truths emerge, threatening the trust on which both of their recoveries depend.


Finn den Hertog directs the provocative and entertaining production. Filmed live from @sohoplace on London’s West End.


*  *  *  *  *


The Fifth Step


Gan David Ireland

Cyfarwyddwr gan Finn den Hertog


Mae enillydd Gwobr Olivier, Jack Lowden (Slow Horses, Dunkirk), yn cael ei ymuno gan enillydd Emmy a BAFTA, Martin Freeman (The Hobbit, The Responder), yn y ddrama newydd gan David Ireland, sydd wedi derbyn clod gan y beirniaid ac sy'n hynod ddoniol.


Ar ôl blynyddoedd yn rhaglen 12 cam Alcoholics Anonymous, mae James yn dod yn noddwr i'r newydd-ddyfodiad Luka. Mae'r ddau yn creu cysylltiadau dros goffi du, yn rhannu straeon ac yn adeiladu cyfeillgarwch bregus o'u profiadau a rennir.


Ond wrth i Luka agosáu at gam pump – yr eiliad o gyffesu – mae gwirioneddau peryglus yn dod i'r amlwg, gan fygwth yr ymddiriedaeth y mae adferiad y ddau yn dibynnu arni.


Finn den Hertog sy'n cyfarwyddo'r cynhyrchiad pryfoclyd a difyr. Wedi'i ffilmio'n fyw o @sohoplace ar West End Llundain.

Sanna’s record-breaking run (U)

Sanna’s record-breaking run

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Friday 28 Nov 202519:00 (Film followed by Q&A with Sanna)

Blending a love of nature with the thrill of trail running, Epic Endurance on Screen celebrates Pembrokeshire-born ultrarunner Sanna Duthie’s record-breaking achievement on the 186-mile Pembrokeshire Coast Path.


In 2025, Sanna set the Fastest Known Time, completing the route in an astonishing 48 hours, 23 minutes, and 49 seconds. Join us at Theatr Gwaun for an exclusive screening of Martin’s documentary, capturing both the grit and beauty of the challenge, followed by a live Q&A with Sanna herself.


U film classification tbc.


*  *  *  *  *


Gan gyfuno cariad at natur â chyffro rhedeg llwybrau, mae Epic Endurance on Screen yn dathlu her torri record yr uwch-redwraig Sanna Duthie, a aned yn Sir Benfro, ar Lwybr Arfordir Sir Benfro, sy’n 186 milltir o hyd.


Yn 2025, gosododd Sanna'r Amser Cyflymaf Hysbys, gan gwblhau'r llwybr mewn 48 awr, 23 munud a 49 eiliad - syfrdanol! Ymunwch â ni yn Theatr Gwaun am ddangosiad unigryw o raglen ddogfen Martin, sy’n dal dwyster a harddwch yr her, ac yna sesiwn Holi ac Ateb byw gyda Sanna ei hun.

FFS-Bogancloch (U)

FFS-Bogancloch

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Thursday 4 Dec 202519:30 (Fishguard Film Society.)

Director: Ben Rivers/2025/UK/86mins


Ben Rivers’ documentary catches up with Jake Williams (Two Years at Sea, 2011), portraying his solitary, off-grid existence on the edge of a Scottish highland forest as the seasons change.  


Bogancloch offers an intimate depiction of this quiet life and a reverie on time's passage, questioning what makes for a happy, meaningful life.


Starring Jake Williams, Nerea Bello and Shane Connolly.


*  *  *  *  *


Cyfarwyddwr: Ben Rivers/2025/UK/86munud


Mae rhaglen ddogfen Ben Rivers yn dal i fyny gyda Jake Williams (Two Years at Sea, 2011), gan bortreadu ei fodolaeth unig, oddi ar y grid ar ymyl coedwig yn ucheldir yr Alban wrth i'r tymhorau newid.


Mae Bogancloch yn cynnig darlun agos atoch o'r bywyd tawel hwn gan fyfyrio ar dreigl amser, gan gwestiynu beth sy'n gwneud bywyd hapus ac ystyrlon.


Yn serennu Jake Williams, Nerea Bello a Shane Connolly.

RB&O The Nutcracker.

RB&O The Nutcracker.

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Wednesday 10 Dec 202519:15 (The Royal Ballet)

The Nutcracker


The Royal Ballet


The magician Herr Drosselmeyer needs to save his nephew. Hans-Peter has been transformed into a Nutcracker; the only way to save him is for the Nutcracker to defeat the Mouse King and find a girl to love and care for him. A flicker of hope comes in the form of the young Clara, whom Drosselmeyer meets at a Christmas party. With some magic, a cosy Christmas gathering turns into a marvellous adventure.


Peter Wright’s The Nutcracker has enchanted audiences since its 1984 premiere by the Company.


Featuring Tchaikovsky’s most familiar melodies and brought to life by Julia Trevelyan Oman’s exquisite designs, The Nutcracker is sure to be a festive firecracker for all ages.


*  *  *  *  *


Mae angen i'r consuriwr Herr Drosselmeyer achub ei nai. Mae Hans-Peter wedi cael ei drawsnewid yn efail gnau ; yr unig ffordd i'w achub yw i'r Efail Gnau  drechu Brenin y Llygod a dod o hyd i ferch i'w garu a gofalu amdani. Daw ychydig o obaith ar ffurf Clara, y mae Drosselmeyer yn cwrdd â hi mewn parti Nadolig. Gyda rhywfaint o hud, mae cynulliad Nadolig clyd yn troi'n antur ryfeddol.


Mae Y Gefail Gnau gan Peter Wright wedi swyno cynulleidfaoedd ers ei berfformiad cyntaf ym 1984 gan y Cwmni. Yn cynnwys alawon mwyaf cyfarwydd Tchaikovsky ac wedi'u bywiogi gan ddyluniadau coeth Julia Trevelyan Oman, mae'r Efail Gnau  yn siŵr o fod yn dân gwyllt Nadoligaidd i bob oed.

FFS-Superboys of Malegaon (12A)

FFS-Superboys of Malegaon

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Thursday 11 Dec 202519:35 (Fishguard Film Society.Subtitled)

Director: Reema Kagti/2025/India/132mins/Subtitles


The residents of Malegaon look to Bollywood cinema to escape from daily drudgery. Nasir Shaikh, an amateur filmmaker from the town bands together his ragtag group of friends to make a film for the people of Malegaon, by the people of Malegaon.


Based on a true story, the film is a poignant yet uplifting take on both filmmaking and friendship - and what happens when those two worlds collide.


Language: Hindi with subtitles


*  *  *  *  *


Cyfarwyddwr: Reema Kagti/2025/India/132mins/Subtitles


Mae trigolion Malegaon yn troi at sinema Bollywood i ddianc rhag diflastod dyddiol. Mae Nasir Shaikh, gwneuthurwr ffilmiau amatur o'r dref, yn dod â'i grŵp o ffrindiau ynghyd i wneud ffilm i bobl Malegaon, gan bobl Malegaon.


Yn seiliedig ar stori wir, mae'r ffilm yn edrych yn deimladwy ond yn galonogol ar wneud ffilmiau a chyfeillgarwch - a'r hyn sy'n digwydd pan fydd y ddau fyd hynny'n gwrthdaro.


Iaith: Hindi gydag isdeitlau

RB&O La Traviata

RB&O La Traviata

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Wednesday 14 Jan 202618:45

La Traviata


The Royal Opera


At one of her lavish parties, celebrated Parisan courtesan Violetta is introduced to Alfredo Germont. The two fall madly in love, and though hesitant to leave behind her life of luxury and freedom, Violetta follows her heart.


But the young couple’s happiness is short-lived, as the harsh realities of life soon come knocking. As intimate as it is sumptuous, La Traviata features some of opera’s most famous melodies, and is a star vehicle for its leading soprano role sung by Ermonela Jaho. In director Richard Eyre’s world of seductive grandeur, the tender and devastating beauty at the centre of Verdi’s opera shines bright.


Sung in Italian with subtitles


*  *  *  *  *


Yn un o'i phartïon moethus ym Mharis, cyflwynir y butain enwog Violetta i Alfredo Germont. Mae'r ddau yn syrthio mewn cariad gwyllt, ac er ei bod yn betrusgar i adael ei bywyd moethus, rhydd ar ôl, mae Violetta yn dilyn ei chalon.


Mae hapusrwydd y cwpl ifanc yn fyrhoedlog, wrth i realiti llym bywyd ddod i'r amlwg yn fuan.

Mae’r cynhyrchiad moethus yma o La Traviata yn cynnwys rhai o alawon soprano enwocaf opera ar gyfer Violetta a ganir gan Ermonela Jaho. Yn nwylo medrus y cyfarwyddwr Richard Eyre, mae harddwch tyner a dinistriol opera Verdi yn disgleirio'n llachar.


Wedi'i ganu yn Eidaleg gydag isdeitlau

NTL Hamlet (12A)

NTL Hamlet

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Thursday 22 Jan 202619:00 (National Theatre Live)

NATIONAL THEATRE LIVE


Hamlet


By William Shakespeare

Directed by Robert Hastie


Olivier Award-winner Hiran Abeysekera (Life of Pi) is Hamlet in this fearless, contemporary take on Shakespeare’s famous tragedy.


Trapped between duty and doubt, surrounded by power and privilege, young Prince Hamlet dares to ask the ultimate question – you know the one.


National Theatre Deputy Artistic Director, Robert Hastie (Standing at the Sky’s Edge, Operation Mincemeat) directs this sharp, stylish and darkly funny reimagining.


*  *  *  *  *


Hamlet


Gan William Shakespeare

Cyfarwyddwyd gan Robert Hastie


Yr enillydd Gwobr Olivier Hiran Abeysekera (Life of Pi) sy'n chwarae rhan Hamlet yn y fersiwn ddi-ofn, gyfoes hon o drasiedi enwog Shakespeare.


Wedi'i ddal rhwng dyletswydd ac amheuaeth, wedi'i amgylchynu gan rym a braint, mae'r Tywysog ifanc Hamlet yn meiddio gofyn y cwestiwn eithaf – rydych chi'n gwybod yr un.


Mae Dirprwy Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol, Robert Hastie (Standing at the Sky’s Edge, Operation Mincemeat), yn cyfarwyddo'r ailddychymyg miniog, chwaethus a thywyll doniol hwn.

RB&O Woolf Works

RB&O Woolf Works

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Monday 9 Feb 202619:15

Woolf Works


The Royal Ballet


Virginia Woolf defied literary conventions to depict rich inner worlds – her heightened, startling and poignant reality.


Resident Choreographer Wayne McGregor leads a luminous artistic team to evoke Woolf’s signature stream of consciousness writing style in this immense work that rejects traditional narrative structures. Woolf Works is a collage of themes from Mrs Dalloway, Orlando, The Waves and Woolf’s other writings.


Created in 2015 for The Royal Ballet, this Olivier-award winning ballet triptych captures the heart of Woolf’s uniquely artistic spirit.


*  *  *  *  *


Heriodd Virginia Woolf gonfensiynau llenyddol i ddarlunio bydoedd mewnol cyfoethog - rhai dwys, syfrdanol a thyner.


Mae'r Coreograffydd Preswyl Wayne McGregor yn arwain tîm artistig disglair i ar gyfer y gwaith aruthrol hwn sy'n gwrthod strwythurau naratif traddodiadol. Mae Woolf Works yn gasgliad o themâu o Mrs Dalloway, Orlando, The Waves a gweithiau eraill Woolf.


Wedi'i greu yn 2015 ar gyfer y Royal Ballet, mae'r triptych bale hwn, sydd wedi ennill gwobr Olivier, yn dal calon ysbryd artistig unigryw Woolf.


RB&O Giselle

RB&O Giselle

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Tuesday 3 Mar 202619:15

Giselle


The Royal Ballet


The peasant girl Giselle has fallen in love with Albrecht. When she discovers that he is actually a nobleman promised to another, she kills herself in despair. Her spirit joins the Wilis: the vengeful ghosts of women hell-bent on killing any man who crosses their path in a dance to the death.  Wracked with guilt, Albrecht visits Giselle’s grave, where he must face the Wilis – and Giselle’s ghost.


Peter Wright’s 1985 production of this quintessential Romantic ballet is a classic of The Royal Ballet repertory. Set to Adolphe Adam’s evocative score and with atmospheric designs by John Macfarlane, Giselle conjures up the earthly and otherworldly realms in a tale of love, betrayal and redemption.


*  *  *  *  *


Mae'r ferch werinol Giselle wedi syrthio mewn cariad ag Albrecht. Pan mae hi'n darganfod ei fod mewn gwirionedd yn ŵr o dras uchel, addawol, ac wedi troi at un arall, mae hi'n lladd ei hun mewn anobaith. Mae ei hysbryd yn ymuno â'r Wilis: ysbrydion dialgar menywod sy'n benderfynol o ladd unrhyw ddyn sy'n croesi eu llwybr mewn dawns i farwolaeth. Wedi'i ladd gan euogrwydd, mae Albrecht yn ymweld â bedd Giselle, lle mae'n rhaid iddo wynebu'r Wilis - ac ysbryd Giselle.


Mae cynhyrchiad Peter Wright o'r bale Rhamantaidd nodweddiadol hwn ym 1985 yn glasur o repertoire The Royal Ballet. Wedi'i osod i sgôr atgofus Adolphe Adam a chyda dyluniadau atmosfferig gan John Macfarlane, mae Giselle yn dwyn i gof y byd daearol a'r byd arall mewn stori o gariad, brad ac iachawdwriaeth.

RB&O Siegfried

RB&O Siegfried

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Tuesday 31 Mar 202617:15

Siegfried - A NEW PRODUCTION


The Royal Opera


Raised by a scheming dwarf and unaware of his true family origins, a young man embarks on an epic journey. Soon, destiny brings him face-to-face with a shattered sword, a fearsome dragon and the cursed ring it guards, and a Valkyrie forced into enchanted slumber...


Moments of transcendent beauty and heroic triumph sparkle in the third chapter of Wagner’s Ring cycle, brought to life under Barrie Kosky’s inspired eye following his spectacular Das Rheingold (2023) and Die Walküre (2025). Andreas Schager, in his much-anticipated debut with The Royal Opera, stars as Siegfried’s titular hero, alongside Christopher Maltman’s towering Wanderer, Peter Hoare’s treacherous Mime and Elisabet Strid’s radiant Brünnhilde. Antonio Pappano conducts, drawing out the unspoken tensions and ethereal mysticism of Wagner’s dynamic score.


Sung in German with subtitles


*  *  *  *  *


Wedi'i fagu gan gorrach cynllwyniol ac yn anymwybodol o'i achau teuluol go iawn, mae dyn ifanc yn cychwyn ar daith epig. Yn fuan, mae tynged yn ei ddwyn wyneb yn wyneb â chleddyf wedi'i chwalu, draig ofnadwy a'r fodrwy felltigedig y mae'n ei gwarchod, a Valkyrie wedi'i gorfodi i gwsg hudolus...


Mae harddwch a buddugoliaeth arwrol yn disgleirio yn nhrydydd bennod cylch Modrwy Wagner. Maent yn dod yn fyw o dan lygad ysbrydoledig Barrie Kosky yn dilyn ei Das Rheingold (2023) ysblennydd a Die Walküre (2025). Mae Andreas Schager, yn ei ymddangosiad cyntaf hir-ddisgwyliedig gyda'r Opera Brenhinol, yn serennu fel yr arwr, Siegfried, ochr yn ochr â Christopher Maltman,Peter Hoare ac Elisabet Strid. Antonio Pappano sy’n arwain, gan dynnu allan y tensiynau distaw a'r cyfriniaeth o sgôr ddeinamig Wagner.


Wedi'i ganu yn Almaeneg gydag isdeitlau


Sponsor a Seat Donations

Sponsor a Seat Donations

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Sponsor a Seat at TG09:25

Sponsor a Seat at Theatr Gwaun


Lots of people love Row G, some prefer the view from the back, and the aisle seats are always popular. Wherever it is you like to sit, you can now make it a little more personal. We have launched our ‘Sponsor a Seat Fundraising Campaign’ and we are inviting donations of £ 200 plus for Row G and the aisle seats and £ 100 plus for all of the others.


Your much needed support will be recognised with a plaque, mounted on the back of the seat in front of your chosen seat, so that it is visible to you as you sit. All of the costs for purchasing and mounting the plaques will be covered by Theatr Gwaun and we will arrange for it to be engraved with your name, or a name of your choice.


The plaques will remain in place for five years and ahead of that anniversary date we will contact you to see if you might consider repeating your generous donation and continuing to enjoy seeing your plaque when you visit Theatr Gwaun.


Noddwch Sedd yn Theatr Gwaun


Mae llawer o bobl yn caru Rhes G, mae'n well gan rai yr olygfa o'r cefn, ac mae'r seddi ger y grisiau canol bob amser yn boblogaidd. Ble bynnag chi’n hoffi eistedd, gallwch nawr ei wneud ychydig yn fwy personol. Rydym wedi lansio ein ‘Hymgyrch Codi Arian Noddi Sedd’ ac rydym yn gwahodd rhoddion o £200 ac i fyny ar gyfer Rhes G a’r seddi grisiau canol a £100 ac i fyny ar gyfer pob un o’r lleill.


Bydd eich cefnogaeth hael yn cael ei gydnabod gyda phlac, wedi'i osod ar gefn y sedd o flaen eich sedd ddewisol, fel ei fod yn weladwy i chi wrth i chi eistedd. Bydd yr holl gostau ar gyfer prynu a gosod y placiau yn cael eu talu gan Theatr Gwaun a byddwn yn trefnu gosod eich enw chi, neu enw o’ch dewis.


Bydd y placiau yn aros yn eu lle am bum mlynedd a chyn y dyddiad pen-blwydd hwnnw byddwn yn cysylltu â chi i weld a hoffech ailadrodd eich rhodd a pharhau i fwynhau gweld eich plac pan fyddwch yn ymweld â Theatr Gwaun.

RB&O The Magic Flute

RB&O The Magic Flute

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Tuesday 21 Apr 202618:45

THE MAGIC FLUTE


The Royal Opera


Princess Pamina has been captured. Her mother, the Queen of the Night, tasks the young Prince Tamino with her daughter’s rescue. But when Tamino and his friendly sidekick, Papageno, embark on their adventure, they soon learn that when it comes to the quest for love, nothing is as it really seems. Guided by a magic flute, they encounter monsters, villains, and a mysterious brotherhood of men – but help, it turns out, comes when you least expect it.


Mozart’s fantastical opera glitters in David McVicar’s enchanting production. A star cast including Julia Bullock as Pamina, Amitai Pati as Tamino, Huw Montague Rendall as Papageno, Kathryn Lewek as the Queen of the Night, and Soloman Howard as Sarastro, led by French conductor Marie Jacquot in her Covent Garden debut.


Sung in German with subtitles.


*  *  *  *  *


Mae'r Dywysoges Pamina wedi'i chipio. Mae ei mam, Brenhines y Nos, yn rhoi tasg i'r Tywysog ifanc, Tamino I achub ei merch. Ond pan fydd Tamino a'i gydymaith cyfeillgar, Papageno, yn cychwyn ar eu hantur, maen nhw'n dysgu'n fuan, nad oes dim fel y mae'n ymddangos mewn gwirionedd. Wedi'u tywys gan ffliwt hud, maen nhw'n dod ar draws angenfilod, dihirod, a brawdoliaeth ddirgel o ddynion - ond mae'n ymddangos bod cymorth yn dod pan fyddwch chi ddim yn ei ddisgwyl.


Mae opera ffantastig Mozart yn disgleirio yng nghynhyrchiad hudolus David McVicar. Cast serennog gan gynnwys Julia Bullock fel Pamina, Amitai Pati fel Tamino, Huw Montague Rendall fel Papageno, Kathryn Lewek fel Brenhines y Nos, a Soloman Howard fel Sarastro, dan arweiniad y Ffrances Marie Jacquot yn ei hymddangosiad cyntaf yn Covent Garden.


Wedi'i ganu yn Almaeneg gydag isdeitlau.

RB&O Eugene Onegin

RB&O Eugene Onegin

CLICK ON THE DESIRED TIME TO BOOK TICKETS

Tuesday 5 May 202618:00 (The Metropolitan Opera)

The Metropolitan Opera


EUGENE ONEGIN


Following her acclaimed 2024 company debut in Puccini’s Madama Butterfly, soprano Asmik Grigorian returns to the Met as Tatiana, the lovestruck young heroine in this ardent operatic adaptation of Pushkin.


Baritone Igor Golovatenko reprises his portrayal of the urbane Onegin, who realizes his affection for her all too late. The Met’s evocative production, directed by Tony Award– winner Deborah Warner, “offers a beautifully detailed reading of … Tchaikovsky’s lyrical romance”

(The Telegraph).


Sung in Russian with English subtitles


*  *  *  *  *


Yn dilyn ei hymddangosiad cyntaf clodwiw gyda'r cwmni yn 2024 yn Madama Butterfly gan Puccini, mae'r soprano Asmik Grigorian yn dychwelyd i'r Met fel Tatiana, yr arwres ifanc sydd wedi'i swyno gan gariad yn yr addasiad operatig brwd hwn o Pushkin.


Mae'r bariton Igor Golovatenko yn ailadrodd ei bortread o Onegin, sy'n sylweddoli ei hoffter tuag ati yn rhy hwyr. Mae cynhyrchiad atgofus y Met, dan gyfarwyddyd yr enillydd Gwobr Tony, Deborah Warner, "yn cynnig darlleniad manwl hyfryd o ... ramant delynegol Tchaikovsky" (The Telegraph).


Wedi'i ganu yn Rwsieg gydag isdeitlau Saesneg